Gwasanaeth: Gwasanaeth Adsefydlu, Cymorth yn y Cartref
Contract: Parhaol, Rhan amser
Oriau: 16 awr yr wythnos
Graddfa: Gradd 5 - £26,824
Gwir gyflog ar gyfer 16 awr – £11,599
Swyddfa: Tŷ Elái, Dinas Isaf (Dwyrain), Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY
Cofrestru: O gael eich penodi, bydd gofyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Y Swydd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig cyfle i ymuno â'r Gwasanaeth Adsefydlu fel Gweithiwr Adsefydlu. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig, tosturiol a brwdfrydig i gefnogi pobl ledled Rhondda Cynon Taf i adennill hyder, annibyniaeth a sgiliau byw bob dydd hanfodol.
Mae'r gwasanaeth Adsefydlu yn fenter iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, sy'n dod â Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol, Ymarferwyr Therapi Cynorthwyol, Arweinydd Carfan a charfan hyfforddedig iawn o staff gofal cymdeithasol ynghyd. Gyda'i gilydd, mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth tymor byr, fel arfer am hyd at chwe wythnos, i helpu unigolion i wella, atal dirywiad lle bo modd a lleihau'r angen am gymorth tymor hwy.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud:
A chithau'n Weithiwr Adsefydlu, byddwch chi'n darparu cymorth ymarferol, sicrwydd ac anogaeth i unigolion yn dilyn salwch, bod yn yr ysbyty am gyfnod, neu gyfnod o annibyniaeth lai. Byddwch chi'n helpu pobl i gynnal, adennill neu ddysgu sgiliau byw bob dydd, gan eu galluogi i gyrraedd eu potensial llawn ac aros yn ddiogel gartref lle bynnag y bo modd.
- Rhoi cymorth i unigolion i gwblhau rhaglen gymorth adsefydlu y cytunwyd arni.
- Hyrwyddo annibyniaeth, hyder a lles drwy gymorth ymarferol sy'n canolbwyntio ar y person.
- Gweithio'n agos gyda chydweithwyr o'r sector iechyd, gofal cymdeithasol ac asiantaethau partner eraill.
- Cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion, teuluoedd, cynhalwyr (gofalwyr) a gweithwyr proffesiynol i helpu i gyflawni deilliannau cadarnhaol.
- Cyfrannu at gyfarfodydd carfan, sesiynau goruchwylio ac arsylwadau rheolaidd o arferion gwaith.
Amdanoch Chi
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n ofalgar, yn ddibynadwy ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl. Bydd gyda chi sgiliau cyfathrebu cryf, dull cadarnhaol o weithio mewn partneriaeth a'r gallu i ysgogi ac annog unigolion drwy gydol eu taith adsefydlu.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf
- Cyfleoedd datblygu gyrfa, ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau Siopa gyda cherdyn Vivup
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Adele Jones neu Debra Simmonds ar (01443) 425070.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.