Gweithiwr Ailalluogi a Gofal (Aberhonddu) Swydd-ddisgrifiad Lle byddwn yn derbyn llawer iawn o geisiadau am swydd, mae'n bosibl y byddwn yn dod â'r dyddiad cau yn gynt. Byddem yn eich annog felly i anfon eich ffurflen gais wedi'i llenwi cyn gynted â phosibl fel na fyddwch yn cael eich siomi.
Mae nifer o swyddi ar gael
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys: 1. Bod yn gyfrifol am weithredu Cynlluniau Personol i gyflawni canlyniadau unigol wrth adennill sgiliau, annibyniaeth, a gofynion cymorth parhaus. Cynorthwyo neu alluogi defnyddwyr gwasanaeth i barhau i fyw o fewn y gymuned, gwella ansawdd eu bywydau, eu cefnogi a'u cynnal yn ddiogel yn eu hamgylchedd eu hunain. Cydymffurfio â gofynion gwasanaeth a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016. 2. Cynorthwyo pobl i ddiwallu eu hanghenion a'u canlyniadau asesiedig a nodwyd mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cefnogi pobl allai fod â chynllun ysgrifenedig gan therapydd iechyd, sydd o bosibl yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau gwahanol. Dylid cyflawni'r tasgau hyn yn unol â hyrwyddo annibyniaeth gymaint â phosibl. 3. Cynorthwyo pobl gyda'u gofal personol, ynghyd â thasgau trin â llaw a allai gynnwys offer symud pobl lle bo angen, ac estyn cymorth wrth weinyddu meddyginiaeth yn unol â'u cynllun personol. 4. Cynorthwyo pobl i adnabod ac ailgysylltu â'u cymuned a'u rhwydweithiau lleol. Annog yr unigolyn ym mhob maes gyda phwyslais arbennig ar gynnal a chynyddu annibyniaeth lle bynnag y mae hyn yn bosibl. 5. Deall beth sy'n bwysig i unigolyn a'i helpu i reoli risgiau i sicrhau'r dewis a'r rheolaeth fwyaf posibl dros ei fywydau. Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, wrth adennill eu hannibyniaeth mewn sgiliau byw bob dydd, gan gynnwys gofal personol. Gall hefyd gynnwys ychydig o warchod yn ystod y nos. 6. Gweithio fel rhan o dîm, gan gynnig dull hyblyg gyda rhestr ddyletswydd wrth gynorthwyo â thasgau cofrestredig sy'n berthnasol i gynllun personol yr unigolyn a allai fod yn ymwneud â gofal cartref neu ailalluogi. 7. Cyfathrebu a chreu perthnasoedd gweithio effeithiol gydag unigolion, eu gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill, wrth eu cefnogi a darparu diweddariadau gwybodaeth. Mynychu cyfarfodydd rhyngasiantaethol lle bo hynny'n briodol. Cyfathrebu â Rheolwyr, Aseswyr a Therapyddion am adborth a dilyniant ar gynlluniau personol 8. Cydymffurfio â'r ddyletswydd i adrodd am bryderon diogelu yn unol â'r ddeddfwriaeth a gweithdrefnau cyfredol. 9. Rhoi gwybod am unrhyw fylchau yn y gwasanaeth a phryderon am ansawdd darpariaeth y gwasanaeth i'r gwasanaeth fel ei fod yn parhau i gydymffurfio â">rheoliadau RISCA 2016. 10.Sicrhau bod cofnodion a ffeiliau yn cael eu cwblhau a/neu eu diweddaru yn unol â">pholisi a gweithdrefnau adrannol er mwyn cadw at brotocolau rhannu gwybodaeth, diogelu data ac egwyddorion llywodraethu gwybodaeth. 11.Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gofalwr proffesiynol a chadw at y Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. 12. Cynnal datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau gwybodaeth gyfoes am y ddeddfwriaeth gyfredol. Adnabod a chymryd rhan ym mhob cyfle hyfforddi a datblygu y tybir eu bod yn briodol, a sicrhau gwybodaeth a chydymffurfiaeth o ran yr holl bolisïau perthnasol 13. Paratoi ac ymgysylltu mewn goruchwyliaeth ac arfarnu gyda'r rheolwr llinell. Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn sesiynau ymarfer myfyriol a chyfarfodydd tîm yn ôl y gofyn. Cadw at bolisïau corfforaethol a'r Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol 14. Cynnal gwaith prosiect ar sail 'gorchwyl a gorffen' dan gyfarwyddyd y Rheolwr Tîm. Cynorthwyo â dyletswyddau cyffredinol y tîm e.e. cofnodi data, ffeilio, galwadau ffôn ac ati. 15.Cadw at Bolisïau a Gweithdrefnau'r Awdurdod
Bydd angen Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i'r swydd hon
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr