37 awr yr wythnos
Tymor Penodol hyd at 31 Mawrth 2027
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy’n meddu ar sgiliau trefnu a rhyngbersonol gwych. Gyda phrofiad helaeth o weithio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol a chanolfannau.
Gan ddefnyddio'r ganolfan ieuenctid symudol newydd, bydd y tîm Allgymorth Ieuenctid yn gweithio mewn partneriaethau gyda Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a darparwyr trydydd sector i ddarparu cymorth wedi'i dargedu mewn lleoliadau cymunedol a nodwyd.
Mae'r rôl yn hanfodol i bontio'r bwlch rhwng y bobl ifanc sydd eisoes yn cael mynediad at ein darpariaeth, a'r rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau ar hyn o bryd. Bydd y rôl hon yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o anghenion lleol presennol pobl ifanc, gan gwrdd â nhw mewn mannau diogel lle maent yn teimlo'n gyfforddus, a'u cynorthwyo i gael mynediad at weithgareddau cadarnhaol.
Gan weithio'n agos gyda'r Uwch-weithiwr Datblygu (Mynediad Agored ac Allgymorth) bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gludo'r ganolfan i leoliadau o amgylch y sir, gan osod a dadosod mewn ffordd ddiogel a rheoledig, ac felly dylai feddu ar y gallu i weithio fel tîm i gynorthwyo pobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol ac allgymorth.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 22 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person