Math o gontract: Parhaol/ Amser Llawn
Lleoliad: swyddfeydd ym Mharc Busnes Maes-y-coed, Pontllan-fraith.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,269 - £32,076 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle wedi codi yng Ngwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili i Weithiwr Allweddol profiadol sydd â'r cymwysterau priodol. Bydd y swydd yn y Tîm Atal i ddechrau, ond gall gael ei symud ar draws y tri thîm yn ôl yr angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli yn ein swyddfeydd ym Mharc Busnes Maes-y-coed, Pontllan-fraith. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ledled y ddwy Fwrdeistref Sirol a bydd angen iddo fod yn berchennog/gyrrwr car.
Prif dasg y swydd yw rheoli llwyth achosion a darparu ymyriadau i fynd i'r afael ag anghenion plant rhwng 8 a 17 oed sydd mewn perygl o droseddu/ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'r gallu i asesu ffactorau risg sy'n gysylltiedig â throseddu, a datblygu cynlluniau cymorth unigol, pwrpasol o fewn amserlenni gofynnol, yn hanfodol. Y nod cyffredinol yw atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd barhaol hon, er mwyn cynorthwyo nod cyffredinol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o ran lleihau troseddu gan blant. Felly, bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol o ran ennyn diddordeb plant a chael effaith gadarnhaol drwy'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud fel rhan o'n Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid amlasiantaethol. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n arwain at droseddu.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Felly, mae sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
A yw'r swydd hon yn swnio'n addas i chi? Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:- - Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac arloesol gyda'r gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Darllenwch y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yma.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - NVQ Lefel 4 neu NVQ lefel 2 gydag ymrwymiad i gwblhau Tystysgrif Broffesiynol mewn Ymarfer Effeithiol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chyrsiau Gradd Sylfaen.
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc anodd eu cyrraedd, eu teuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, e.e. angen dangos y gallu i ddarbwyllo, cyd-drafod.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio o fewn y Fwrdeistref Sirol, a'r tu allan iddi, i fynychu cyfarfodydd/cludo cleientiaid/ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â Kate Macgregor, Rheolwr Tîm, ar 01495 235623 neu
macgrk@caerffili.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ddydd Gwener 7 Mehefin 2024.
Ni fydd yn bosibl cynnig dyddiad arall ar gyfer cyfweliad.