Lleoliad gwaith: Llys Elian, Bae Colwyn
Mae Llys Elian yn gartref preswyl 27 gwely ar gyfer pobl hŷn sydd yn byw gyda Dementia, mae yna dri thŷ ar gyfer byw ynddynt yn barhaol ac un tŷ gofal seibiant a chanolfan ddydd.
Os yr ydych chi yn empathig, ac yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol – hoffem glywed oddi wrthych gan ein bod yn dymuno penodi unigolion ymroddedig a brwdfrydig i weithio yn ein cartref preswyl.
Eich gwaith fydd cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion ar bob agwedd o dasgau byw o ddydd i ddydd fel gofal personol, cynnal annibyniaeth, rhoi meddyginiaeth, diddordebau a sgiliau bywyd.
Rhoddir hyfforddiant a bydd rhai oriau gwaith am dâl uwch fesul awr.
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfathrebwr da a byddwch yn cyfathrebu gydag amryw o bobl, o’r unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr gofal proffesiynol eraill fel Meddygon Teulu a Gweithwyr Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm i gynnal a gwella lles unigolion – gan roi gwybod i staff uwch a rheolwyr am unrhyw bryderon.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn hanfodol; mae’r gallu i ysgrifennu’n Saesneg yn hanfodol ac yn ddymunol yn Gymraeg.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â gwiriad Datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Christine Williams, Rheolwr, 01492 577773 Christine.williams@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.