Mae Gweithwyr Cefnogi'n cael effaith fawr ar fywydau'r rhai y maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl h'n heddiw.
Rydym yn cefnogi pobl h'n ar draws Sir Conwy i fyw mor annibynnol a phosib' yn eu cartrefi eu hunain, gan roi cymorth iddynt ddysgu a chadw sgiliau sy'n caniatáu iddynt fod yn rhan o'u cymunedau. Mae hynny'n golygu gwrando arnynt, deall yr hyn maent yn ei hoffi a'u cefnogi i benderfynu a chyflawni'r hyn yr hoffent ei gyflawni.
Os ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd yma, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi!
- Helpu pobl i fyw'r bywyd mae arnynt eisiau ei fyw.
- Creu perthnasoedd ar sail ymddiried yn y naill a'r llall a diddordeb gwirioneddol mewn pobl eraill.
- Helpu pobl eraill i deimlo'n dda.
- Helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau.
- Gallu cymell pobl eraill.
- Dangos parch tuag at bobl eraill.
- Llawn hiwmor a hwyl.
- Gallu bod yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd anodd, heb fynd i banig.
Unigolion yw ein preswylwyr ac maent yn haeddu cael eu trin felly. Nid oes arnoch angen unrhyw brofiad i ymgeisio gan y byddwch yn cael sesiwn gyflwyno lawn i'ch paratoi ac rydym yn cynnig ystod o fanteision, sy'n cynnwys:
- Rota treigl pedair wythnos sy'n eich galluogi i gynllunio o amgylch eich bywyd cartref 12 mis ymlaen llaw
- Cyfraddau cyflog da a chyfraddau uwch am weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau
- Cyrsiau hyfforddiant a chymhwyso AM DDIM
- Gallu mynd ymlaen i nifer o swyddi gofal eraill o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan rai di-Gymraeg, Dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae angen gallu siarad Saesneg safonol er mwyn cyfathrebu a unigolion.
Mae gennym ni sawl swydd wag ar hyd a lled Sir Conwy. Bydd cyflogau cychwynnol yn dibynnu ar brofiad, gan ddechrau o £11.98 - £12.38 heb unrhyw brofiad blaenorol gyda'r gallu i £12.18 - £12.59 cyfradd sylfaenol fesul awr.
Os ydych chi'n gweithio'n galed ac os oes gennych awydd gwirioneddol i helpu eraill ac am swydd sy'n rhoi boddhad gyda Chyngor Conwy, cysylltwch ag un o'r rheolwyr isod am sgwrs anffurfiol ac am gyfle i gael cyfweliad:
Landudno, Cyffordd Llandudno, Bae Penrhyn, Deganwy, Llanfairfechan, Penmaenmawr - Sophie Gibson - 01492 574655
sophie.gibson@conwy.gov.uk
Llanrwst, Betws-y-coed, Glan Conwy, Dolwyddelan, Maerdy - Julie Clarke - 01492 577955
Julie.Clarke@conwy.gov.uk
Abergele, Bae Cinmel, Tywyn, Llannefydd, Llansannan - Nadine Simpson - 01492 577786
nadine.simpson@conwy.gov.uk
Fae Colwyn, Llandrillo-yn-rhos, Mochdre, Bae Colwyn Uchaf, Llysfaen, Hen Golwyn - Lucinda Villiers 01492 576335
lucinda.villiers@conwy.gov.uk
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
This form is also available in English.