Lleoliad gwaith: Abergele/Colwyn Bay
Rydym yn chwilio am unigoliom brwdfrydig a chymhellol i ymuno â’n Tîm Ailalluogi. Mae hon yn rôl werth chweil yn cefnogi oedolion (18+) yn eu cartrefi eu hunain ac mewn lleoliadau cymunedol i adennill annibyniaeth, gwella lles, a chyflawni eu hamcanion unigol.
Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol—yn cynnwys Nyrsys, Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Cyfarpar Cymunedol, Teleofal a sefydliadau gwirfoddol—byddwch yn darparu cymysgedd o ofal cymdeithasol, iechyd ac adferol yn unol â chynlluniau gofal y Tîm Amlddisgyblaethol.
Prif Gyfrifoldebau
• Cefnogi unigolion yn eu cartrefi i ddatblygu hyder, sgiliau gofal personol a gweithgareddau bywyd dyddiol, gan hybu annibyniaeth lle bo’n bosibl.
• Cyflawni tasgau clinigol a bennir, megis mesuriadau ffisiolegol (pwls, tymheredd, BP), profi wrin, cymryd gwaed, a gofal llafar (hyfforddiant yn cael ei ddarparu).
• Cofnodi ac adrodd gwybodaeth yn gywir yn unol â gofynion y sefydliad.
• Gweithio’n hyblyg fel rhan o wasanaeth sy’n gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn.
Meini Prawf Hanfodol
• Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda pharodrwydd i gwblhau Lefel 3 o fewn 12 mis.
• Profiad mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol, yn ddelfrydol yn y gymuned.
• Gallu dilyn canllawiau, cyflawni dyletswyddau dirprwyedig, ac ymateb yn gadarnhaol i adborth.
• Addysg gyffredinol dda.
• Gallu cynnal sgwrs yn Gymraeg gyda phobl hŷn am eu hiechyd a’u lles.
• Gallu ysgrifennu yn Saesneg (ysgrifennu yn Gymraeg – dymunol).
Mae hon yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd, gan weithio mewn amgylchedd cefnogol sy’n gwerthfawrogi tosturi, tîm-gwaith a datblygiad personol.
Bydd gofyn i chi wneud archwiliad Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Meinir Roberts, Rheolwr (Meinir.roberts@conwy,gov.uk / 01492577773)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon er hynny rydym yn annog ymgeiswyr sy’n rhugl yn y Gymraeg i ymgeisio am y swydd. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.