Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G05 £24,294 - £25,119 pro rata Oriau: 2 x 30 awr yr wythnos ynghyd ag 1 x 19 awr yr wythnos
Lleoliad - Wedi'i leoli yn Park View, Gwasanaeth Seibiant Ydych chi'n mwynhau helpu eraill, ydych chi'n ofalgar, yn drugarog, yn ddibynadwy ac yn gyfeillgar, ac ydych chi'n mwynhau her. Yma yn ein Gwasanaeth Seibiant rydym yn darparu seibiant byr dymor ar gyfer unigolion gydag ystod eang o anghenion, pobl gydag anghenion dysgu, synhwyraidd, corfforol ac anaf a gafwyd i'r ymennydd. Rydym yn darparu Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ac yn ymfalchïo ar ddarparu gwasanaeth sy'n trin pobl gydag urddas a pharch. Mae'r dyletswyddau'n amrywio o gefnogaeth â gofal personol, i ddysgu sgiliau newydd a chefnogi pobl i wneud gweithgareddau o'u dewis nhw, mae pob diwrnod yn wahanol. Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sy'n rhannu'r un gwerthoedd â ni, os oes gennych chi gymhwyster mewn Gofal Cymdeithasol, byddai hynny'n wych, os nad, peidiwch â phoeni, byddwn yn eich cefnogi i gwblhau'r holl hyfforddiant sydd ei angen arnoch i ymgymryd â'ch rôl i'r safon orau bosibl. Cynhelir y gwasanaeth hwn 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn, felly bydd yn rhaid gweithio shifftiau dydd, nos, ac ar benwythnosau, telir ychwanegiadau ar gyfer y shifftiau hyn. Diddordeb? I ddarganfod mwy, cysylltwch â Wendy Bailey, Mary Rigney neu Diane Beech ar 01978-722417 am sgwrs anffurfiol. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed. Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Swydd dd... (.docx) (33kb) , Job Desc... (.doc) (115kb)
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr