Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Gweithiwr Cefnogol Cymunedol Anabledd Dysgu (Arfon)

Dyddiad cau 05/08/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£20,743 - £21,072 a year (GS3) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Gweithiwr Cefnogol yn y Gymuned, i gefnogi unigolion ag anabledd dysgu i fyw yn annibynnol yn ei cartrefi, cefnogi unigolion mewn grwpiau yn Arfon (Glynllifon, Caernarfon a Bangor).

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Lona Pierce Roberts ar 0782 527 3514 neu drwy e-bost : lonapierceroberts@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 05/08/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. .

                

Nodweddion personol

Hanfodol

Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest, dibynadwy hyblyg a pharchus.

Y Gallu i wrando a chyfathrebu’n glir a parchu hawliau unigolion, teuluoedd a chyd-weithwyr.

Person cydwybodol, creadigol, deallgar a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion

Bod yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig

Yn gallu defnyddio’ch dychymyg i gysylltu’n emosiynol ag eraill

Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar gyda Unigolion, Teuluoedd, Cydweithwyr a Gweithwyr Proffesiynol

Meddu ar sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Adnabod sgiliau gwahanol/mathau o gyfathrebu gyda unigolion

Gallu gweithio’n unigol ac fel aelod o dim

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig

Dymunol

Cymorth Cyntaf, Diogelu, Symud a Thrin ag unrhyw Hyfforddiant perthnasol i’r swydd neu ymrwymiad i gwblhau’r Hyfforddiant.

Profiad perthnasol

Hanfodol

-

Dymunol

Profiad o weithio neu profiad personol o waith Gofal

Profiad o weithio gydag Oedolion Bregus

Profiad o gefnogi unigolion i wneud gwaith domestig cyffredinol, megis cadw Ty

Profiad o weithio gydag Unigolion sydd yn dangos ymddygiadau sydd yn achosi pryder

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Meddu ar sgiliau cyfathrebu da ar phob lefel

Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal

Sgiliau i ddatrys problemau

Defnydd o gar a trwydded yrru llawn.

Dymunol

Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodolYmwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol

Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Canolradd

Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall - Canolradd

Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu - Canolradd

Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

                

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o’u cymuned.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Cyfrifoldeb cyffredinol am unrhyw Offer/Adnoddau mewn perthynas ar swydd

 

Prif Ddyletswyddau.

PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL:

CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
• Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a parchu hawliau’r unigolyn.
• Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.