Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Lona Pierce Roberts ar lonapierceroberts@gwynedd.llyw.cymru neu 07825273514.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau.
Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 05/11/2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Nodweddion personol
Hanfodol
Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest, dibynadwy hyblyg a pharchus.
Y Gallu i wrando a chyfathrebu’n glir a parchu hawliau unigolion, teuluoedd a chyd-weithwyr.
Person cydwybodol, creadigol, deallgar a person pwyllog pan yn delio gyda unigolion
Bod yn gadarnhaol ac yn frwdfrydig
Yn gallu defnyddio’ch dychymyg i gysylltu’n emosiynol ag eraill
Dangos agwedd broffesiynol gyfeillgar gyda Unigolion, Teuluoedd, Cydweithwyr a Gweithwyr Proffesiynol
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Adnabod sgiliau gwahanol/mathau o gyfathrebu gyda unigolion
Gallu gweithio’n unigol ac fel aelod o dim
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig
Dymunol
Cymorth Cyntaf, Diogelu, Symud a Thrin ag unrhyw Hyfforddiant perthnasol i’r swydd neu ymrwymiad i gwblhau’r Hyfforddiant.
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Profiad o weithio neu profiad personol o waith Gofal
Profiad o weithio gydag Oedolion Bregus
Profiad o gefnogi unigolion i wneud gwaith domestig cyffredinol, megis cadw Ty
Profiad o weithio gydag Unigolion sydd yn dangos ymddygiadau sydd yn achosi pryder
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu ar sgiliau cyfathrebu da ar phob lefel
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Sgiliau i ddatrys problemau
Defnydd o gar a trwydded yrru llawn.
Dymunol
Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodolYmwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y modd maent eisiau ei fyw, cefnogi i ddatblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd i fod yn rhan o’u cymuned.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb cyffredinol am unrhyw Offer/Adnoddau mewn perthynas ar swydd.
Prif ddyletswyddau
CEFNOGI’R UNIGOLION SY’N DEFNYDDIO’R GWASANAETH
•Gweithio i gwrdd ag amcanion llesiant yr unigolion yr ydych yn eu cefnogi, a sicrhau a parchu hawliau’r unigolyn.
•Dilyn ethos Cefnogaeth Gweithgar (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Active support) a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Positive Behaviour Support), sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion a hyrwyddo eu annibyniaeth.
•Cynorthwyo gyda gofal personol mewn modd urddasol a pharchus.
•Cyfrannu at/dilyn Cynlluniau Gofal Personol yr unigolion.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
•Cydweithio a chyfathrebu gyda Unigolion, Theulu/Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
CANLLAWIAU A POLISÏAU
•Gweithredu yn unol a gofynion y ddeddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 a chanllawiau a polisïau’r gwasanaeth a Cyngor Gwynedd (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant Cymru).
•Ymrwymo i gôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: Côd Ymarfer).
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
•Manteisio ar y cyfle i dderbyn goruchwyliaeth a mentora gan staff profiadol.
•Gwerthuso a dilyn rhaglenni Dysgu a Datblygu Cyngor Gwynedd sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol sydd yn cynnwys cwblhau Hyfforddiant Anwytho cychwynnol.
•Ymrwymo i gwblhau cymwysterau proffesiynol pan fo angen.
•Ymrwymo i gwblhau unrhyw hyfforddiant perthnasol
DIOGELU
•Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a chymryd rhan mewn protocolau diogelu oedolion bregus.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Rhaid i deilydd y swydd fod yn gallu ymgymryd â thasgau symud a thrin sy’n gallu cynnwys cadeiriau olwyn a hoistiau.
•Canllaw cyffredinol yw’r swydd ddisgrifiad yma yn unig. Efallai y bydd angen i’r holl weithwyr cefnogol ymgymryd â dyletswyddau sydd heb eu hamlinellu uchod ar gais Rheolwr y Tîm neu’r rheolwr llinell.
•Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw’n angenrheidiol.