Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Sylwch nad yw'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr ar gael ar hyn o bryd oherwydd cynnal a chadw.

Gweithiwr Cefnogol Tim o Amgylch y Teulu

Dyddiad cau 06/07/2026

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£28,142 - £31,022 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Bydd deilydd y swydd yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac ymyrraeth i deuluoedd ar drawsdoriad eang o feysydd megis magu plant, rheoli emosiynau ayb. 
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar sail 1:1 neu mewn grŵp gyda phlant, pobl ifanc a /neu eu teuluoedd mewn lleoliadau amrywiol e.e. ysgolion, cartrefi, y gymuned. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm i gynnig gwasanaeth rhagorol i blant a theuluoedd Ynys Môn er mwyn cefnogi teuluoedd i ddatblygu eu cryfderau eu hunain a’u grymuso i wneud penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain. 
Bydd angen gallu gweithio’n agos gydag amrywiaeth o asiantaethau a gwasanaethau eraill ar yr ynys yn ôl yr angen i gwrdd ag anghenion y teuluoedd.   
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â gwybodaeth a phrofiad da a chadarn am ddiogelu plant a sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau a phrotocolau er mwyn sicrhau mai diogelwch plant yw’r prif ystyriaeth. 

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.