Gweithiwr Cefnogol Tim o Amgylch y Teulu x2
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £29,071 - £32,046 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Gweithio’n agos â phlant / pobl ifanc a theuluoedd er mwyn eu galluogi i gael llais cryfach a rheolaeth dros y gwasanaethau y byddant yn eu derbyn.
Gweithio’n agos â phlant / pobl ifanc a theuluoedd er mwyn eu galluogi i gael llais cryfach a rheolaeth dros y gwasanaethau y byddant yn eu derbyn.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm i gynorthwyo i ddarparu ymyraethau a chymorth uniongyrchol, hyblyg, ymarferol a seiliedig ar dystiolaeth i blant/pobl ifanc a’u teuluoedd. Yn eich rôl, bydd disgwyl i chi gyfrannu at dîm sy’n tyfu wrth i broses y strategaeth ymyrraeth gynnar ac atal wreiddio yn y ddarpariaeth leol. Gweithio ochr yn ochr â phlant/gofalwyr plant a phobl ifanc i ddatblygu cryfderau teuluoedd. Drwy rymuso teuluoedd byddant yn ceisio eu harfogi i wneud penderfyniadau seiliedig ar wybodaeth a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain. Bydd gofyn i chi weithio’n agos ag ystod eang o asiantaethau a sicrhau bod gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol wybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu a gwasanaethau eraill ar yr ynys.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein