Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.
Gweithiwr Cefnogol x2
Dyddiad cau 23/12/2024
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Gwynedd
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swydd Gofal - Cytundeb 33awr - hefyd cyfle i weithio oriau ychwanegol rheolaidd os yn dymuno
BLAENAU FFESTINIOG A TRAWSFYNYDD
Ydych chi wedi ystyried gweithio yn y maes Gofal?
A ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa sy'n rhoi boddhad a phleser i chi wrth gefnogi eraill?
Mae cyfle nawr i chi ymuno hefo Tîm Gofalwyr Cartref Cyngor Gwynedd
Rydym eisiau clywed gennych nawr yn fwy nac erioed - cysylltwch hefo ni heddiw am fanylion.
Gallwn gynnig contractau oriau sefydlog a chyflog ffafriol yn ogystal â chostau amser teithio.
Fel aelod o staff, byddwch hefyd yn manteisio ar becyn hyfforddiant cynhwysfawr sy'n berthnasol i waith gofal.
Byddwch yn cael cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol.
DBS (CRB) di dal - Mae cyflogaeth yn amodol i dderbyn adroddiad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
26.5 Diwrnod a wyliau pro rata y flwyddyn ac hawl Gŵyl y banc (cynyddu i 29.5 diwrnod
pro rata yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth di-dor hefo'r Cyngor)
Pensiwn atyniadol ar gael
Buddiannau staff amrywiol
Tâl - £ 24,790 - £25,183 (llawn amser 37awr) £12.85 - 13.05 / awr
Teithio .45c/milltir
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Margaret Ranson
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O'R GLOCH, DYDD LLUN 23/12/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser.
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad
gymhwyso o fewn amserlen benodedig
Dymunol Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, gymorth cyntaf
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasol
Profiad perthnasol Hanfodol -
Dymunol Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus.
Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Dymunol Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o'r safonnau perthnasol
Meddu ar drwydded yrru ddilys.
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi ag annog defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol â phosibl drwy gynorthwyo'r unigolyn eu teuluoedd a'u gofalwyr gyda thasgau nad ydynt yn gallu ymdopi gyda neu yn ei chael hi'n anodd gwneud ar ben eu hunain.
• Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr gwasanaethyn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr.
• Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisïau Cyngor Gwynedd yn ogystal â chydymffurfio a Safonau a'r Rheoliadau Cenedlaethol perthnaso Deddf Gofal 2000
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Parchu a defnyddio'n briodol unrhyw offer a chyfarpar sydd at ddefnydd y gwasanaeth.
• Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'ch Rheolwr Llinell a/neu'r person sydd â chyfrifoldeb am yr offer o unrhyw ddiffyg ynddo, neu o ddiffyg yn y gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb
• Sicrhau rheolaeth briodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau • I sicrhau a pharchu urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol â Pholisi Cyngor Gwynedd a Safonau a Rheoliadau Cenedlaethol Deddf Gofal 2000
• I ddarparu cefnogaeth a chyflawni tasgau penodol yn unol Chynllun Gofal yr unigolyn e.e. gofal personol
• I fod yn sensitif i'r angen apbarchu hawliau, credoau a dewisiadau yr unigolyn ar bob achlysur.
• I ymddwyn yn broffesiynol ar bob achlysur yn ogystal â chydymffurfio 'a'r cod gwisg briodol
• I gyfathrebu yn effeithiol gyda'r defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, staff ac asiantaethau eraill wrth barchu cyfrinachedd bob amser.
• I fod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol
• I weithredu os yn berthnasol fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
• I gofnodi a rhoi gwybodaeth mewn dogfennau yn ffeiliau'r defnyddiwr gwasanaeth ar sail ddyddiol.
• I ymgymryd â dyletswyddau glanhau a londri.
• I baratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
• I gydymffurfio yn llawn gyda Chod Meddigyniaeth Cyngor Gwynedd..
• I ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddiant yn unol ar Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
• I gymhwyso i safon QCF 2/neu gyfatebol oddi fewn i amserlen benodol.
• I fynychu cyfarfodydd yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Llinell
• I fynychu sesiynau Goruchwylio a gwerthusiad staff
• I ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau'r Cyngor ynglŷn ag arferion da. .
• I gydymffurfio gyda holl bolisïau iechyd a diogelwch yr adran. Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb am ofalu am ei iechyd ei hun a iechyd y diogelwch eraill.
• I ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i'r swydd yn ôl eich Rheolwr Llinell ag sydd er lles a datblygiad defnyddwyr gwasanaeth
• I gofrestru â Chyngor Gofal Cymru yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
• I gydymffurfio gyda gofynion polisi a chanllawiau Amddiffyn Oedolion Bregus Cymru.
• I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio a Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd
•r swydd yn ol eich Rheolwr Llinell sydd er lles a datblygiad y gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Angen i weithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Bydd hyn yn golygu penwythnosau gwyliau banc fel bo angen.
• Ymdrin ag arian personol unigolion yn unol â chynllun gofal neu ganllawiau trafodion ariannol Cyngor Gwynedd
• Ar adegau mae' bosibl y bydd angen i ddeilydd y swydd ymgymryd â dyletswyddau cysgu i mewn
• Ymgymryd â dyletswyddau gall eich Rheolwr llinell eu dirprwyo i chwi.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr