Oriau: 37 oriau.
Math o gontract: Cyfnod penodol tan 31ain Mawrth 2025
Lleoliad: Gweithio Ystwyth
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Blant – Tîm Cymorth Dwys
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am 2 Gweithiwr Cymdeithasol creadigol a brwdfrydig i gynorthwyo ein gwasanaeth Cyfarfodydd Teuluoedd o fewn y Tîm Cymorth Dwys.
Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, gweithiwr addysg, gweithiwr iechyd a seicolegydd plant. Rydyn ni ond yn cynorthwyo teuluoedd sy'n hysbys i Wasanaethau i Blant Caerffili, ac oherwydd hynny, dydyn ni ddim yn rheoli achosion ond yn darparu cymorth i'r teulu fel sy'n cael ei nodi gan y teulu a'r Gweithiwr Cymdeithasol yn eu cynllun. Rydyn ni'n gweithio'n ataliol i gadw plant i gael gofal o fewn eu teulu.
Byddwch chi'n ymgymryd ag ystod o dasgau sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd yn y gymuned gyda ffocws ar hwyluso Cyfarfodydd Teulu i gynorthwyo a grymuso teuluoedd i ddod o hyd i gynllun teulu i fynd i'r afael â phryderon gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u plentyn.
Byddwch chi'n cynorthwyo teuluoedd a phobl ifanc i baratoi ar gyfer cyfarfodydd teulu, gan gynnal ymweliadau â'r cartref yn ôl yr angen.
Byddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth â Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chynorthwyo gyda darparu gwybodaeth i’r teulu o ran pryderon ac adnoddau posibl.
Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth eiriolaeth rhieni i sicrhau bod rhieni'n cael cymorth gyda'u lleisiau’n cael eu clywed mewn cyfarfodydd.
Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o dîm cefnogol. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a hyrwyddo dymuniadau a theimladau'r plentyn yn unol â'r hyn sy'n bwysig.
Mae'r swydd am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025 pan fydd yn cael ei hadolygu.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Gwybodaeth gyfredol am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r Fframwaith Dysgu ac Addysg Proffesiynol Parhaus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Singler ar 01443 233261 neu ebost: singlk@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.