37 awr yr wythnos
Dros dro – 6 mis
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig ymuno â'r Tîm Iechyd Meddwl Gofal Cymdeithasol i Oedolion am secondiad chwe mis.
Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn cynnig gwasanaeth gwaith cymdeithasol sy'n cynnwys asesu anghenion, cynlluniau gofal a chymorth cymwys, ac ymateb galluogol sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i oedolion â phroblemau iechyd meddwl cymhleth a phroblemau posibl sy'n cyd-ddigwydd nad ydynt yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Mae'r tîm wedi'i gyd-leoli ag ARC, gan weithio mewn ffordd integredig, a byddwch yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o ymyriadau gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac yn sail i hyn bydd athroniaeth o adferiad, adeiladu gwydnwch, cynhwysiant cymdeithasol a sicrhau'r ymgysylltu cymunedol a chymdeithasol mwyaf posibl.
Fel aelod o'r tîm byddwch yn rhannu ag aelodau eraill y cyfrifoldeb am weithredu'r gwasanaeth yn effeithiol a chymryd rhan yn ei ddatblygiad parhaus.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio gydag oedolion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch y Rheolwr Tîm Emma-Jayne Roche ar 07891330977 neu anfonwch neges e-bost at emma.roche@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person