37 awr yr wythnos
Mae gan ein Tîm 15+ gyfle ar hyn o bryd i weithiwr cymdeithasol ymuno â nhw. Mae'r Tîm 15 + yn gweithio i gyflawni'r canlyniadau hirdymor gorau i'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw. Mae'r tîm yn ymdrechu i gefnogi pobl ifanc sy'n pontio i oedolaeth a'i wneud yn brofiad haws a hawdd ei drin.
Fel gweithiwr cymdeithasol yn y Tîm 15+ bydd disgwyl i chi weithio mewn partneriaeth â phobl ifanc, eu gofalwyr gweithwyr proffesiynol eraill i gwblhau asesiadau o ansawdd uchel er mwyn datblygu Cynlluniau Llwybr sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Byddwch yn cynorthwyo pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gan gynnal asesiadau anghenion gan ganolbwyntio ar bontio. Bydd angen i chi fod â diddordeb gwirioneddol mewn gweithio gyda phobl ifanc, yn ymrwymedig i gefnogi canlyniadau cadarnhaol a dull sy'n canolbwyntio ar y person at eich rôl. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sefydledig a sefydlog. Byddwch yn cael goruchwyliaeth, cymorth ac arweiniad rheolaidd ac yn dod yn rhan o dîm llawn cymhelliant ac ymroddedig.
Mae'r gwasanaeth yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Mae awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio'r model Arwyddion Diogelwch i arwain ymarfer ac mae'n ddull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Bydd yn bwysig i ddeiliad y swydd feddu ar brofiad o'r ffyrdd hyn o weithio neu'n agored i ddysgu a dangos sgiliau trosglwyddadwy i'w alluogi i ymarfer gan ddefnyddio'r fethodoleg hon. Mae'r awdurdod lleol yn ymrwymedig i ddarparu hyfforddiant cynhwysfawr i'r holl staff wrth ddefnyddio'r model Arwyddion Diogelwch.
Byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion sydd wedi'u cynllunio i ddenu, datblygu, a gwobrwyo ein cyflogeion.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cymdeithasol yn y tîm 15+, ffoniwch Vanessa John ar 01656 815111 neu Vanessa.john1@bridgend.gov.uk
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 03 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person