Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 1 Mai 2025
Lleoliad: Swydd gyfunol ystwyth sy’n cynnwys gweithio gartref, yn y gymuned ac yn y swyddfa ar sail rota, wedi'i rhannu rhwng safleoedd ym Maes-y-coed a Thredomen.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau/Anableddau Dysgu ehangach i ddatblygu eich sgiliau ymhellach yn y maes hwn.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol deinamig a blaengar sy'n gweithio gydag oedolion ag anabledd dysgu neu anabledd corfforol a/neu nam ar y synhwyrau, gan groesawu dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae'r tîm yn gweithredu mewn modd amlasiantaethol, gan weithio gyda chydweithwyr o wasanaethau iechyd, tai a gwasanaethau statudol eraill, yn ogystal â gwasanaethau mewnol, gan gynnwys ein Gwasanaeth Talu Uniongyrchol; Gwasanaethau i blant, i gynorthwyo pobl ifanc sy'n pontio i fyd oedolion, a’n Swyddogion Adsefydlu pwrpasol ar gyfer y rhai â nam ar y golwg.
Mae’r tîm yn gweithio’n unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a’r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, ac yn cynnig Llwyth Achosion cytbwys ac amrywiol, gan gynnwys cyfle i ryddhau cleifion yn gyflym o'r ysbyty, gan gyferbynnu â darnau o waith tymor hwy, datblygu perthnasoedd proffesiynol â defnyddwyr gwasanaeth a defnyddio gwybodaeth ddysgedig am gyflyrau ac anableddau penodol.
Mae'r tim yn hynod gefnogol, gan greu amgylchedd dysgu trwy oruchwylio, gwerthuso a sesiynau myfyriol cymheiriaid rheolaidd. Mae'r adran yn buddsoddi yn y rhaglen addysg a dysgu proffesiynol parhaus (CPEL) ac yn sicrhau bod amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi perthnasol ar gael i staff.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi’r â'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a bod yn gofrestredig fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu’n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol gofal cymdeithasol
- Dealltwriaeth o anghenion dysgu, corfforol ac emosiynol Oedolion sy'n Agored i Niwed ag anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau/anabledd dysgu
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu effeithiol i gynorthwyo a diogelu defnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed drwy gyfnodau anodd yn eu bywydau.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r gofynion cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Emma Davies ar 07789901550 neu ebost
daviee8@caerphilly.gov.uk .
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth