Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol tan 30ain Ebrill 2027
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Tîm: Pobl hŷn
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152- £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae'r rôl hon o fewn tîm Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn sefydledig a chefnogol sy'n cwmpasu gogledd Caerffili. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo oedolion hŷn ag anghenion iechyd meddwl, iechyd corfforol a dementia, gan helpu unigolion a gofalwyr i ddod o hyd i ddatrysiadau priodol yn ystod cyfnodau o anhawster a dros yr hirdymor.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys asesiadau, adolygiadau, diogelu, a chymryd rhan yn y rota dyletswydd. Mae angen gwybodaeth dda ar ymgeiswyr ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae'r tîm yn cynnig arweinyddiaeth gref, cyfnod sefydlu strwythuredig, cyfleoedd DPP, goruchwyliaeth, ymarfer myfyriol, gweithio ystwyth, a chymorth i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a phrofiadol.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os wnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Beth McIntyre ar 07879 693907 neu ebost mcintb@caerphilly.gov.uk / Debra Ford ar 07548 153257 neu ebost fordd@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.