Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Uned 4, Parc Busnes Maes-y-Coed/Gweithio ystwyth
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ehangach Blaenau Gwent a Chaerffili.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal brynhawn dydd Mawrth 21 Mai 2024. Sylwer, ni fydd dyddiad arall yn cael ei gynnig ar gyfer cyfweliad.Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i gynorthwyo nod cyffredinol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i leihau troseddu gan blant. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau statudol a gwirfoddol lleol.
Bydd rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg, yn arloesol a gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Wedi’ch lleoli o fewn un o’r Timau Llys a'r Gymuned, byddwch chi'n gweithio ar Orchmynion Llys Statudol ac achosion Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys. Byddwch chi'n rheoli a darparu gwasanaethau i blant rhwng 10 a 17 oed sy’n ymwneud â throseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio i atal digwyddiadau pellach o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu gofalwyr er mwyn mynd i'r afael â ffactorau sy'n arwain at droseddu. Hefyd, bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Ydy hyn yn swnio fel swydd addas i chi? Os felly, byddwn ni'n darparu'r canlynol:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Cymorth i gwblhau addysg a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff newydd gymhwyso.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a bod yn gofrestredig fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol.
- Llwyddiant blaenorol o ennyn diddordeb plant a chael effaith gadarnhaol.
- Sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn enwedig gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd nhw.
Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a fydd yn cymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 2024.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r gofynion cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Vicki Woodward ar 01495 235623 neu ebost
woodwv@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth