Rydym yn profi rhai materion technegol a allai eich atal rhag mewngofnodi neu ddefnyddio rhannau o'r wefan. Rydym wrthi'n gweithio ar ddatrys y materion hyn ac yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi i chi.
Caerphilly County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleoliad
Caerphilly
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£36,648 - £39,186 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Rydyn ni’n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau: 37 oriau. Math o gontract: Cyfnod penodol tan 31ain Mawrth 2025
Lleoliad: Gweithio Ystwyth
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Blant – Tîm Cymorth Dwys
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rydyn ni'n chwilio am 2 Gweithiwr Cymdeithasol creadigol a brwdfrydig i gynorthwyo ein gwasanaeth Cyfarfodydd Teuluoedd o fewn y Tîm Cymorth Dwys.
Mae'r tîm yn amlddisgyblaethol ac yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymorth, gweithiwr addysg, gweithiwr iechyd a seicolegydd plant. Rydyn ni ond yn cynorthwyo teuluoedd sy'n hysbys i Wasanaethau i Blant Caerffili, ac oherwydd hynny, dydyn ni ddim yn rheoli achosion ond yn darparu cymorth i'r teulu fel sy'n cael ei nodi gan y teulu a'r Gweithiwr Cymdeithasol yn eu cynllun. Rydyn ni'n gweithio'n ataliol i gadw plant i gael gofal o fewn eu teulu.
Byddwch chi'n ymgymryd ag ystod o dasgau sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd yn y gymuned gyda ffocws ar hwyluso Cyfarfodydd Teulu i gynorthwyo a grymuso teuluoedd i ddod o hyd i gynllun teulu i fynd i'r afael â phryderon gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u plentyn.
Byddwch chi'n cynorthwyo teuluoedd a phobl ifanc i baratoi ar gyfer cyfarfodydd teulu, gan gynnal ymweliadau â'r cartref yn ôl yr angen.
Byddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth â Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chynorthwyo gyda darparu gwybodaeth i’r teulu o ran pryderon ac adnoddau posibl.
Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r gwasanaeth eiriolaeth rhieni i sicrhau bod rhieni'n cael cymorth gyda'u lleisiau’n cael eu clywed mewn cyfarfodydd.
Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o dîm cefnogol. Bydd angen i chi fod yn ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a hyrwyddo dymuniadau a theimladau'r plentyn yn unol â'r hyn sy'n bwysig.
Mae'r swydd am gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2025 pan fydd yn cael ei hadolygu.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd. Gwybodaeth gyfredol am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant. Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r Fframwaith Dysgu ac Addysg Proffesiynol Parhaus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Singler ar 01443 233261 neu ebost: singlk@caerphilly.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr