Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Amser Llawn
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhymni/Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Pobl Hŷn ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle cyffrous yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i Weithiwr Cymdeithasol Cymwys ymuno â'n tîm Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn sefydledig, sy'n cwmpasu gogledd Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae Tîm Pobl Hŷn y Gogledd wedi'i leoli yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni, ochr yn ochr â nyrsys ardal, dwy feddygfa, a thimau iechyd a gwaith cymdeithasol eraill. Rydyn ni'n dîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n ymdrechu i gynorthwyo oedolion hŷn a'u gofalwyr sydd angen gofal a chymorth.
Mae'r timau'n darparu gwasanaethau i oedolion hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl neu iechyd corfforol. Mae cyfran uchel o'n gwaith ni'n cynnwys cynorthwyo'r rhai sydd â diagnosis o ddementia.
Bydd y swydd yn golygu gweithio gydag oedolion hŷn i'w helpu nhw i ddod o hyd i ddatrysiadau priodol ar adegau o anhawster, yn ogystal ag yn y tymor hir. Bydd hefyd yn golygu diogelu unigolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau, adolygiadau ac yn cyfrannu at y rota dyletswyddau yn y tîm. Bydd angen i ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o gymhwyso'r meini prawf cymhwystra a'r egwyddorion sydd wedi'u gosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Mae'r tîm wedi sefydlu diwylliant o waith tîm lle mae staff yn gefnogol iawn o'i gilydd.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol profiadol yn ogystal â rhai sydd newydd gymhwyso, a bydd cyfnod sefydlu strwythuredig yn cael ei ddarparu ynghyd â'r canlynol:
- Cymorth i gwblhau addysg a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff newydd gymhwyso.
• Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
• Penderfyniadau amserol ac sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
• Goruchwyliaeth, gwerthusiad a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol rheolaidd.
• Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
• Arweinyddiaeth amlwg a chryf.
• Parcio dynodedig am ddim wrth weithio yn y swyddfa.
• Cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb misol ac ymarfer myfyriol.
• Cymysgedd o weithio mewn swyddfa ac yn ystwyth.
Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar Ddiploma/Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol a'u bod nhw wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru, y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban neu Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (Gweithwyr Cymdeithasol yn unig).
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Deddf Iechyd Meddwl a Deddfwriaeth Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Os hoffech chi sgwrs anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, cysylltwch â Beth McIntyre, Rheolwr Tîm ar gyfer Tîm Pobl Hŷn y Gogledd, ar 01685 846481/07879 693907 neu
mcintb@caerffili.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.