Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae tri thîm gwaith cymdeithasol i bobl hŷn, dau wedi'u lleoli yn Nhŷ Penallta, Ystrad Mynach ac un yng Nghanolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni.
Mae pwyslais sylweddol ar gyflawni safonau arfer uchel. Mae'r tîm yn flaengar a bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymarfer yn unol â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol a Chod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol er mwyn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol effeithiol. Bydd gwybodaeth ymarferol gyfredol o ddeddfwriaeth a pholisïau presennol yng Nghymru yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli llwyth achosion a hefyd yn cyfrannu at y swyddogaeth ddyletswydd o fewn y tîm. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar sgiliau asesu cryf ynghyd â'r gallu i sicrhau adolygiadau rheolaidd a rheoli risg. Lle bydd angen ymyrraeth, bydd disgwyl i chi ddarparu ymateb cymesur ac amserol a rheoli blaenoriaethau amrywiol yn effeithiol.
Bydd y swydd yn cynnwys cynnal asesiadau integredig, asesiadau galluedd meddyliol, asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal a chymorth gyda’r nod o reoli risg a dod o hyd i atebion priodol i ddiwallu anghenion/gyflawni canlyniadau. Mae sicrhau bod oedolion hŷn yn cael eu hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth hefyd yn elfen graidd o’r rôl. Mae pwyslais ar waith tîm a bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol profiadol yn ogystal â rhai sydd newydd gymhwyso. Bydd cyfnod sefydlu strwythuredig yn cael ei ddarparu.
Ydy hyn yn swnio fel swydd addas i chi? Os felly, byddwn ni'n darparu'r canlynol: - Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Cymorth i gwblhau addysg a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff newydd gymhwyso.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr uwch dîm rheoli.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol ac wedi cwblhau'r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer gofal cymdeithasol a'r ysgogwyr cenedlaethol o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Joanna Webb / Beth McIntyre ar 01443 866930 / 01685 846481 neu ebost:
webbj@caerphIlly.gov.uk /
mcintb@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.