Oriau gwaith: 37 oriau
Math o gontract: Parhaol/Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Teuluoedd a Ffrindiau ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186, ynghyd ag Atodiad i'r Farchnad o £3,383 y flwyddyn, a delir mewn 12 rhandaliad misol, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Cafodd Tîm Teuluoedd a Ffrindiau ei ddatblygu gan Caerffili yn 2020 gyda'r nod o leihau'r niferoedd o Blant sy'n Derbyn Gofal ac addasu’r cymorth i Warcheidwaid Arbennig. Mae'r tîm Teuluoedd a Ffrindiau yn rheoli'r plant sy'n destun Darpariaeth Gofal Plant Proffesiynol, trefniadau Maethu gan Berthnasau, Gorchmynion Goruchwylio a phlant ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig ac felly mae'n dîm sy'n darparu cymorth hirdymor i deuluoedd.
Byddwch chi'n gyfrifol am asesu ac adolygu anghenion cymorth y plant a'u rhieni/gofalwyr. Bydd gofyn i chi fynychu'r llys i sicrhau bod y gorchymyn mwyaf priodol ar waith, h.y. wrth ystyried diddymu Gorchmynion Gofal neu drosi Gorchmynion Gofal yn Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae hefyd nifer fechan o Ofalwyr Maeth Teuluoedd a Ffrindiau yn cael eu goruchwylio yn y tîm gyda'r nod o sicrhau Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig i'r plant yn eu gofal.
Bydd gennych chi lwyth achosion o blant sy'n Blant sy'n Derbyn Gofal, a bydd angen gwybodaeth arnoch chi o brosesau a gweithdrefnau'r Plant sy'n Derbyn Gofal.
Bydd gennych chi sgiliau asesu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd yn effeithiol, gyda ffocws ar les a diogelwch y plentyn. Byddwch chi'n fedrus wrth ddatblygu a chynnal gweithio amlasiantaeth effeithiol ac yn cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o bob disgyblaeth.
Byddwch chi’n rhan o amgylchedd tîm hynod gefnogol a bydd mynediad gennych chi at gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd. Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r cymhwyster Cadarnhau Ymarfer o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
- Phrofiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kerry Woodward ar 01443 863248 neu ebost:
woodwkn@caerfilli.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,383 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.