Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 89
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Tîm Gofal Plant Dwyrain Llanelli
Nifer y swyddi gwag: lluosog
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman
Gradd: Gradd I
Cyflog: £36,648 - £40,221
Cyfradd yr awr: £18.99 - £20.84
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym yn dîm sy'n ymroddedig i wella bywydau plant a phobl ifanc yn ardal Sir Gaerfyrddin. Os ydych yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig, mae hwn yn gyfle delfrydol i ymuno ag adran gefnogol iawn, a hoffem glywed gennych.
Rydym yn angerddol ynghylch cefnogi plant a'u teuluoedd, gan sicrhau bod gan ein gweithwyr cymdeithasol y cymorth sydd ei angen arnynt i fod lle mae eu hangen fwyaf - gyda theuluoedd ac nid ffeiliau. Mae dod yn weithiwr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn golygu ymuno â gwasanaeth sydd â sylfeini cadarn, tîm rheoli sefydlog a gweithlu ymroddedig.
Rydym yn un o'r ychydig awdurdodau lleol sydd wedi lleihau'n gyson nifer y plant sy'n derbyn gofal yn eu sir ac rydym wedi gwneud hyn trwy arloesi yn ein timau gwaith cymdeithasol a buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol, yn ogystal â gweithio i rymuso a chefnogi teuluoedd i ddod yn fwy gwydn.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael y dechrau gorau gyda chymorth pwrpasol i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth aruthrol sydd gan brofiad a'r gwaith cymhleth y mae Gweithwyr Cymdeithasol profiadol yn ei wneud. Byddwch yn cael cyfle i wneud cynnydd o ran ymarfer gwaith cymdeithasol (y tu allan i lwybr rheoli) drwy ein 'Fframwaith Cynnydd ar gyfer Ymarferydd Profiadol'. Mae cynnydd llwyddiannus yn cynnig yr ystod uwch o wobrau cyflog.
Ar hyn o bryd mae gennym rai cyfleoedd parhaol a dros dro ar draws ystod o dimau, gan gynnwys timau asesu rheng flaen, timau tymor hir pwrpasol a Thîm 0-25 (Anabledd), wedi'u lleoli ar draws ardal wledig hardd yn ogystal ag mewn trefi prysur fel Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Gallwn gynnig proses sefydlu gynhwysfawr, goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd, gweithio hybrid a gweithio hyblyg, ynghyd â rhaglen datblygu proffesiynol gefnogol. (Gweithiwr cymdeithasol plant (llyw.cymru))
Rydym yn cynnig pecyn buddion rhagorol gan gynnwys:
- Cofrestru awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl gwyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Mynediad at gymorth iechyd a lles staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e. cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
- Hyfforddiant a chefnogaeth helaeth
- Parcio am ddim yn y prif swyddfeydd gwaith cymdeithasol plant yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Cliciwch ar y ddolen - Buddiannau gweithwyr (llyw.cymru) i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o fudd-daliadau a threfniadau gweithio rydym yn eu cynnig.
Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Noreen Jackman, Rheolwr Gwasanaeth NJackman@sirgar.gov.uk.
Disgrifiad Swydd: Social Worker - Grade I-J.pdf - 189KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 29/08/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.