Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 641
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Iechyd Meddwl - Tîm y De, Llanelli
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Sir Gaerfyrddin
Gradd: Social Worker
Cyflog: £36,648 up to £44,428*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £19.00 up to £23.03*
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm * Mae dilyniant y tu hwnt i bwynt cyflog £40,221, hyd at uchafswm o £44,428 yn amodol ar asesiad panel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol' yr Awdurdod****Fframwaith Dilyniant Ymarferydd ProfiadolMae'r 'Fframwaith' yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen atgyfnerthu, ac sy'n ymgymryd ag ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth yn rheolaidd. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod. Ydych chi'n chwilio am eich swydd nesaf mewn Gwaith Cymdeithasol? Mae ein Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol sydd wedi'i sefydlu ers tro yn awyddus i recriwtio person addas sy'n angerddol dros wneud gwahaniaeth ym maes Iechyd Meddwl.
Mae'n rhaid i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig (Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW, CQSW) gyda DBS manwl ar y gwasanaeth diweddaru. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o weithio gyda phobl sydd â salwch meddwl neu sydd ag anghenion sy'n gysylltiedig â'u hiechyd meddwl. Byddai bod yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn fantais ychwanegol ac yn gyfnewid am hyn, bydd y Cyngor yn rhoi tâl ychwanegol. Fodd bynnag, os nad ydych yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, rhoddir hyfforddiant. Mae'n rhaid i chi allu rheoli llwyth achosion o bobl ag anhwylder meddyliol difrifol sy'n gweithredu fel cydgysylltydd gofal o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a chynnal asesiadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bydd angen sgiliau da arnoch o ran asesu, cynllunio gofal ac adolygu a byddwch wedi ymrwymo i egwyddorion cydgynhyrchu a phennu beth sy'n wirioneddol bwysig i'r unigolyn.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael y dechrau gorau gyda chymorth pwrpasol i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod y gwerth aruthrol sydd gan brofiad a'r gwaith cymhleth y mae Gweithwyr Cymdeithasol profiadol yn ei wneud. Byddwch yn cael cyfle i wneud cynnydd o ran ymarfer gwaith cymdeithasol (y tu allan i lwybr rheoli) drwy ein 'Fframwaith Cynnydd ar gyfer Ymarferydd Profiadol'. Mae cynnydd llwyddiannus yn cynnig yr ystod uwch o wobrau cyflog.
Mae hon yn swydd barhaol amser llawn (37 awr yr wythnos) yn gweithio ar draws ardaloedd Llanelli a Rhydaman. Gallwch ddisgwyl goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol gan dîm cefnogol ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu eich ymarfer yn ogystal â mynediad i'r offer TG y bydd eu hangen arnoch i gyflawni eich rôl.
I gael sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd, ffoniwch Michelle Thomas-Luisi, Rheolwr y Tîm ar 01554 772768
Disgrifiad Swydd: 009674.pdf - 205KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 24/10/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.