Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol/Llawn Amser
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhymni
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £37,938 - £40,476 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n dîm brwdfrydig ac ymroddedig sy’n ymdrechu i gynorthwyo oedolion hŷn a’u gofalwyr, sydd angen gofal a chymorth. Mae'r timau'n darparu gwasanaethau i oedolion hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl neu iechyd corfforol. Mae cyfran uchel o'n gwaith ni'n ymwneud â chynorthwyo'r rheini sydd â diagnosis o ddementia.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i’r cyhoedd o fewn deddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau cyfredol a pholisïau a gweithdrefnau’r Gyfadran. Os ydych chi’n effeithiol wrth adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol, os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu a TG da a bod gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau i bobl hŷn a’u teuluoedd, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Rydyn ni’n gweithio ar y cyd i hyrwyddo "yr hyn sy'n bwysig" ac i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. Bydd deiliad y swydd yn cynnal asesiadau, adolygiadau a hefyd yn cyfrannu at y rota dyletswyddau o fewn y tîm.
Bydd angen i ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o gymhwyso'r cymhwystra sydd wedi'u gosod yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluoedd Meddyliol 2005. Mae gan y tîm ddiwylliant sefydledig o waith tîm lle mae staff yn gefnogol iawn o'i gilydd.
Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol profiadol yn ogystal â rhai sydd newydd gymhwyso. Bydd cyfnod sefydlu strwythuredig yn cael ei ddarparu.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gradd/Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Cwblhau'r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os wnaethoch chi gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Deddf Iechyd Meddwl a Deddfwriaeth Galluedd Meddyliol ac Amddifadu o Ryddid.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid a mynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Beth McIntyre/Deb Ford ar 07879693907/ 07548 153257 neu ebost:
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.