Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G09 £35,745 - £38,223 y flwyddyn
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Asesu ac Ymyrryd fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni'n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae'r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol, pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â'r Tîm Asesu ac Ymyrryd fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Tîm Gwaith Cymdeithasol yw'm Asesu ac Ymyrryd sydd yn cynnal asesiadau cynhwysfawr gyda theuluoedd allai fod yn wynebu anawsterau. Mae'r tîm hefyd yn cwblhau pob ymholiad amddiffyn plant cychwynnol i'r adran ac yn asesu'r teulu. Trwy gydol eu gwaith mae'm Asesu ac Ymyrryd wedi ymrwymo i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'r bobl ifanc a theuluoedd maent yn gweithio â nhw. Rydym yn gweithio'n galed i gadw teuluoedd gyda'i gilydd, ond rydym yn cymryd camau pan fo angen er mwyn sicrhau diogelwch tymor canolig a hir dymor plant.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu aelodau'm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau staff. Rydym yn rhagweithiol yn yr adran gan greu ymdeimlad o gymuned ac rydym ni'n cynnal digwyddiadau codi arian yn rheolaidd i helpu achosion lleol ac arbennig. Rydym ni'n gwerthfawrogi aelodau ein tîm a'u gwaith caled tuag at gontinwwm datblygu a chynnydd y tîm. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae'r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws. ">Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy'n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant
•Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
Mae'r rôl hwn yn cefnogi gweithio'n hybrid, cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra'n gweithio i'r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus ( Working for us | Wrexham County Borough Council )
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.