Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol profiadol neu wedi graddio'n ddiweddar ac yn dymuno dod yn fwy arbenigol mewn maes ymarfer penodol? Gallai'r Tîm Plant ag Anableddau eich helpu chi i gyflawni hyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth i ddatblygu ymhellach ei wybodaeth am ymarfer gwaith cymdeithasol gyda phlant sy'n agored i niwed, gan gynnwys egwyddorion gofal a chymorth, amddiffyn plant a gwaith llys. Gan ddatblygu gwybodaeth well am amrywiaeth o wahanol anableddau, bydd yn dod i ddeall manteision a heriau gweithio aml-asiantaeth a chael cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth bresennol.
Mae'r Tîm Plant ag Anableddau yn gweithio gyda phlant hyd at 18 oed sydd ag anabledd parhaol a sylweddol. Mae'r cyfle hwn yn galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu ei arbenigedd a'i wybodaeth o fewn y maes anabledd gydag ystod oedran eang o unigolion, gan ganolbwyntio ar weithio gyda phlant, eu teuluoedd a gofalwyr.
Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm cefnogol. Byddwch chi'n ymrwymedig i wella canlyniadau i blant a hyrwyddo dymuniadau a theimladau'r plentyn yn unol â'r hyn sy'n bwysig.
Mae Caerffili wedi mabwysiadu dull ystwyth o weithio, ac mae'r holl gyfarpar angenrheidiol i alluogi hyn yn cael ei ddarparu. Mae cyflenwi yn y swyddfa yn cael ei drefnu ar sail rota drwy'r wythnos weithio. Hefyd, mae Cyngor Caerffili yn rhagweithiol o ran datblygu staff ac yn cynorthwyo fframwaith datblygu gyrfa Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol ac wedi cwblhau'r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer yn llwyddiannus o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer (os ydych chi wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016).
- Gwybodaeth am y fframwaith deddfwriaethol gofal cymdeithasol e.e. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Plant, Deddf Galluedd Meddyliol, ac ati.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y Deyrnas Unedig a’r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd ac ymweld â chleientiaid.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Catherine Doran ar 01495 235622 neu ebost:
doranc@caerffilli.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.