Am Y Gwasanaeth
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol integredig yn nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pentwyn, Pentwyn, Caerdydd. Mae’r tîm wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd ac mae'n dîm bach a chefnogol sy'n ymdrin ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Am Y Swydd
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn gallu asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr yn hyderus, ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Byddwch hefyd yn gallu cynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig a chynlluniau rheoli risg. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.
Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith, a thelir lwfans car achlysurol am hyn.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn rhoi gwybod am fformat y cyfweliad fel rhan o’r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch gyda Catherine Evans – Social Work Lead at Hamadryad CMHT on 02920 463488.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau