Am Y Gwasanaeth
Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghanolfan Hamadryad yng Nghaerdydd.
Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn cynnig gwaith ymarferol, prysur a diddorol i ymarferwyr fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Mae Canolfan Hamadryad wedi’i lleoli yng nghanol Cymuned amlddiwylliannol ac mae’n delio ag unigolion ag ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Am Y Swydd
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn fanteisiol hefyd a dylai fod gennych brofiad o oruchwylio staff. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Rydym yn awyddus i benodi Gweithiwr Cymdeithasol profiadol ar gyfer swydd Uwch. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein dinasyddion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol ac wedi'ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Bydd gennych wybodaeth gadarn am y fframwaith deddfwriaethol sydd ar waith.
- Byddwch yn hyderus wrth asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
- Byddwch hefyd yn hyderus wrth gynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig a chynlluniau rheoli risg.
- Byddwch yn gallu ymarfer o safbwynt sy'n seiliedig ar gryfder.
- Byddwch yn ymrwymedig i ymgymryd â hyfforddiant i gynorthwyo gyda'ch datblygiad proffesiynol ac i'r broses oruchwylio.
- Byddwch am weithio ym mhrifddinas Cymru mewn gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn gweithio gyda'n gilydd â chydweithwyr, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill.
- Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith, a thelir lwfans car achlysurol am hyn.
- Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Mae hon yn swydd ran-amser am 18.5 awr yr wythnos.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad ydynt yn eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Catherine Evans 02920 463488 or Catherine.Evans4@cardiff.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau