Oriau gwaith: 37 oriau
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amer
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Plant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 (gyda £3,441 ychwanegol o ychwanegiad y farchnad i'w dalu mewn 12 rhandaliad ochr yn ochr â'r cyflog) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Timau Ardal Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol llawn amser yn
Tîm Dwyrain Caerffili , Gorllewin Caerffili a'r Coed Duon, sydd â'r gwerthoedd cywir, cymhelliant ac ymrwymiad i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil.
Os ydych yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig, neu ar fin cymhwyso eleni, dewch i weithio yng Nghaerffili a chael cymorth ar eich taith gwaith cymdeithasol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr gwaith cymdeithasol trydedd flwyddyn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig y cyfle i ddechrau fel gweithwyr cymorth heb gymhwyso. Unwaith y byddant wedi cymhwyso, byddant wedyn yn cael eu penodi'n weithwyr cymdeithasol.Os ydych chi'n effeithiol wrth adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol, os oes gennych chi sgiliau cyfathrebu a TG da a bod gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Rydym yn gweithio ar y cyd i hyrwyddo "yr hyn sy'n bwysig" gyda phlant a'u teuluoedd.
Mae gan Wasanaethau Plant Caerffili gysylltiadau cryf â Gwasanaeth Ymlyniad Gwent ac mae Caerffili wedi buddsoddi mewn gwasanaeth therapiwtig MyST, sy'n darparu cymorth dwys i'n Plant sy'n Derbyn Gofal.
Byddwn yn darparu'r canlynol i chi: -
- Proses cynefino cynhwysfawr.
- Cefnogaeth i gwblhau DAPP ar gyfer staff sydd newydd gymhwyso.
- Hyfforddiant i hyrwyddo eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i fewnosod.
- Gwneud penderfyniadau amserol ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol, a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr Uwch Dîm Rheoli
Mae chwe thîm Gwasanaethau Plant wedi'u lleoli'n ddaearyddol. Mae'r timau'n cynnal asesiadau o ansawdd uchel ac yn rheoli gofal plant a'u teuluoedd yr aseswyd bod angen ymyrraeth barhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol arnynt. Mae’r timau’n ymdrin â gwaith tymor byr a hirdymor, gan gynnwys Plant mewn Angen Gofal a Chymorth, Plant sy’n Derbyn Gofal, Amddiffyn Plant a gwaith llys.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r rheoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Gwybodaeth gyfredol am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carol Davies ar 01443 86475 neu ebost:
daviec30@caerphilly.gov.ukNid oes angen i ymgeiswyr blaenorol ailymgeisio.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,441 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.