Am Y Gwasanaeth
Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd.
Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a gorllewin Caerdydd. Mae ein staff yn gweithio ochr yn ochr â thîm iechyd arbenigol ac yn cynnig cymorth amlddisgyblaethol i bobl leol. Rydym yn cefnogi unigolion i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau gan ganolbwyntio ar gynhwysiant a chefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy'n mynd ati i hyrwyddo arfer gorau ac sy'n cefnogi gweithio ar sail cryfderau gyda'i ymarferwyr. Mae gennym feysydd o arfer da cenedlaethol ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y rhain a datblygu cyfleoedd lleol pellach o ansawdd uchel i fodloni canlyniadau pobl.
Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei statws fel prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Mae ganddi gymeriad unigryw ag ansawdd bywyd rhagorol ac enw da yn rhyngwladol am ei hamrywiaeth eang o atyniadau diwylliannol, chwaraeon a theuluol. Ai nawr yw’r amser iawn i chi weithio ym mhrifddinas Cymru gyda'i chymunedau bywiog ac amrywiol a’i hystod o brofiadau gwaith gwahanol? Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Am Y Swydd
Mae sawl cyfle cyffrous wedi codi i weithiwyr cymdeithasol cymwys ymuno â'r Tîm Oedolion ag Anawsterau Dysgu yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol Gradd 8. Mae hwn yn amser gwych i ymuno â'r gwasanaeth gan ein bod wedi cynyddu'r gallu i gefnogi datblygiad staff a chryfhau ein gwasanaethau o ansawdd uchel.
Rydym yn chwilio am Weithiwyr Cymdeithasol sydd â dealltwriaeth fanwl o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ac sydd â sgiliau mewn cynnal asesiadau a gwaith llys sy'n seiliedig ar gryfder / sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn ogystal â rheoli llwyth achosion cymhleth yn effeithiol. Mae'r swydd hon hefyd yn cynnwys asesu risg a chefnogi pobl i reoli'r risgiau hyn yn gadarnhaol.
Mae profiad o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu ac awtistiaeth yn hanfodol.
Mae gennym gyfle ar gael ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 ar gael yn nhîm Cymuned Anableddau Dysgu yng Ngwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi gweithwyr cymdeithasol proffesiynol ac sy'n cefnogi eu hymarfer.
- Dull sefydledig o ymdrin â gwaith cymdeithasol ar sail cryfderau gyda grwpiau mentor i annog trafodaeth a dysgu proffesiynol mewn sesiynau gwarchodedig.
- Cyfle i hyfforddi’n rhan o'r gwaith o gynnig darpariaeth a mentora ar sail cryfderau.
- Cyflwyniad cynhwysfawr i'n gwasanaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd o ansawdd i gefnogi a chynnal ymarferwyr.
- Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo'r ymarfer rhagorol a welwn gan ein gweithwyr cymdeithasol.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol a mynediad at ddiweddariadau cyfreithiol ac ymarfer rheolaidd.
- Mae ein systemau a'n technoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio ystwyth a hyblyg ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei weithwyr.
- Swyddfa sy’n agos at amwynderau da i weithio ohoni o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.
- Cyfleoedd i helpu i lywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i oedolion ag anabledd dysgu yng Nghaerdydd yn y dyfodol
- Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3000 ar hyn o bryd
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol
- Brwdfrydedd ac angerdd dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc ac oedolion sydd ag anabledd dysgu.
- Sylfaen gwerthoedd cryf a pharodrwydd i weithio'n weithredol gyda gwaith cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau wrth wraidd eich ymarfer
- Profiad o oruchwylio staff
- Profiad o weithio gyda phobl sydd ag anableddau dysgu
- Parodrwydd i ddysgu ymrwymiad i ymarfer rhagorol
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014
- Ymrwymiad i ddatblygu hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Byddwn yn eich helpu i gael profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion
- Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Gwiriwch y Disgrifiad Swydd a’r Manyleb Person am feini prawf hanfodol a dymunol eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer trefniadau rhannu swydd.
Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Helen Jones, Rheolwr Tîm, ar Helen.Jones5@caerdydd.gov.uk .
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau