Am Y Gwasanaeth
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion a'u canlyniadau eu hunain.
Gwasanaethau Oedolion Cymunedol Dyma ein tîm mwyaf yng Nghaerdydd sy'n cefnogi unrhyw un dros 18 oed gydag anableddau corfforol a phobl hŷn. Mae'r timau'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol yn y gymuned ac mewn ysbytai sy'n cynnig gwasanaethau i unigolion a theuluoedd o'r tro cyntaf y bydd angen cymorth arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion drwy gydol eu taith gyda ni. Gan weithio ochr yn ochr gyda thîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gynnwys timau Therapi Galwedigaethol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, timau Canolfan Ddydd a chydweithwyr Iechyd, rydym yn dod o hyd i atebion i gefnogi unigolion orau i gyflawni eu canlyniadau. Mae gennym ni berthnasoedd cytundebol gydag ystod eang o ddarparwyr gofal cartref er mwyn rhoi gofal a chymorth ledled Caerdydd a chartrefi gofal preswyl, gan sicrhau bod pob opsiwn ar gael i ddiwallu orau anghenion unigolion.
O fewn y Gwasanaethau Cymunedol Oedolion, mae nifer o dimau craidd sy'n sicrhau bod unigolion yn cael cymorth yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
- Pwynt Cyswllt Cyntaf - Tîm Gwaith Cymdeithasol / Asesu Oedolion
- Tîm Ysbyty
- Tîm Rheoli Achosion
- Tîm Adolygu
Tîm Dyletswydd Cymunedol:
Am Y Swydd
Swydd Uwch Weithiwr Cymdeithasol Gradd 8 yw hon i weithio yn ein tîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedol (a elwid gynt yn Dîm Rheoli ac Adolygu Achosion). Mae'n cwmpasu'r swyddogaeth adolygu flynyddol ac ymyrraeth gwaith cymdeithasol hirdymor.
Mae'r maes gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o aelodau tîm, gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso, Gweithiwr Cymdeithasol Pontio, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, Rheolwyr Tîm, Rheolwr Gwasanaeth a Gweithwyr Cymorth Cartref. Bydd y rôl benodol hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwaith cymdeithasol ymhellach o fewn tîm proffesiynol, cefnogol, creadigol a gweithgar.
Mae'r tîm hefyd yn cydlynu'r ymateb gwaith cymdeithasol i Ofal Iechyd Parhaus o fewn y Gwasanaethau Oedolion, yn ogystal â rhoi cyfle i ymarferwyr brofi gwaith llys sy'n gysylltiedig â'r Llys Gwarchod ac i gefnogi myfyrwyr.
Byddwch chi’n darparu cymorth uniongyrchol i ddinasyddion (asesu, cynllunio gofal ac adolygu) a all olygu ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth ar brydiau. Bydd cyfle hefyd i chi gefnogi cydweithwyr eraill yn y tîm mewn swyddogaeth oruchwylio wrth ddarparu cefnogaeth barhaus i'r Rheolwr Tîm a'r Rheolwr Gwasanaeth yn ôl yr angen. Mae disgwyl y byddwch yn ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau ac yn ffurfio rhan o grŵp ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n gwneud penderfyniadau sy'n edrych ar ddatblygiad strategol y maes hwn.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion Caerdydd.
Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig cyfle i chi weithio o fewn y gymuned fwyaf ei phoblogaeth a’i hamrywiaeth yng Nghymru. Mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dros 5000 o unigolion ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd proffesiynol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a phrofiadol.
Byddwch yn ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl hŷn ac unigolion ag anableddau corfforol ac sydd wedi ymrwymo i waith cymdeithasol ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac i aros mor annibynnol â phosibl.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol ac i’ch helpu i fod y gweithiwr cymdeithasol gorau posibl.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, mae'r rôl hon yn cynnig Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi, gan gynnwys mynediad at safleoedd swyddfa ledled y ddinas.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys yn gynnar yn eich gyrfa ac yn awyddus i gael profiad pellach o fewn Cyngor Caerdydd. Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol a rheoli eich amser. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG. Rhaid i chi gael gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a bod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan weithiwr cymdeithasol profiadol a fydd yn cynnig mentoriaeth ac arweiniad ar eich achosion a bydd yn cefnogi eich datblygiad gyrfa o fewn y tîm.
Bydd gennych ymrwymiad i gefnogi pobl hŷn a'r rhai ag anableddau corfforol ac i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, ataliol, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen i'w galluogi i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Bydd gennych ymrwymiad cryf ac amlwg i ymagweddau sy'n seiliedig ar gryfder, ymroddiad i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a diddordeb brwd yn eich datblygiad proffesiynol parhaus, gan ymdrechu am ragoriaeth.
Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion.
Rhaid i chi gael gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a bod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i ymuno â'n tîm nodedig o Weithwyr Cymdeithasol. Ymunwch â ni i gael eich ysbrydoli gan yr hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig!
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad ydynt yn eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â keith.self@caerdydd.gov.uk
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau