Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Coed Duon
Tîm: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli o fewn un o'n Timau Llys a'r Gymuned, yn gweithio ar Orchmynion Llys Statudol ac achosion Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys. Prif ffocws y gwaith fydd rheoli plant rhwng 10-17 oed sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol, a darparu gwasanaethau iddyn nhw. Byddwch chi hefyd yn gweithio i atal digwyddiadau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau'r sectorau statudol a gwirfoddol lleol.
Bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol o ran ennyn diddordeb plant a chael effaith gadarnhaol drwy'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud fel rhan o'n Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid amlasiantaethol. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n arwain at droseddu.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Felly, mae sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
A yw hyn yn swnio fel y swydd addas i chi? Os felly, byddwn ni'n darparu'r canlynol:-
• Rhaglen sefydlu gynhwysfawr
• Cymorth i gwblhau addysg a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff newydd gymhwyso
• Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus
• Model asesu risg wedi'i sefydlu
• Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth
• Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol
• Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol
• Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 23 Gorffennaf 2026
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Vicki Woodward ar 01495 235623 neu ebost: Woodwv@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.