Gweithiwr Cymdeithasol
Lleoliad
-
Wrecsam
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Parhaol
- Cyflog
- £38,220 - £40,777 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl
37 awr yr wythnos
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol sy’n chwilio am her newydd i helpu i wella bywydau pobl? Os yw hynny’n apelio atoch, dyma’ch cyfle!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Asesu ac Ymyrraeth fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sy'n wrthwahaniaethol ac yn wrthormesol a fydd yn eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn ysgogol a bod â sgiliau asesu da - os yw hyn yn eich disgrifio chi, hoffem glywed gennych.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, a chynigir pob swydd ar gontract parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol o £38,220 - £40,777 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol atyniadol, dilyniant a datblygiad i weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod bod meini prawf penodol yn cael eu bodloni, ynghyd â thaliad Cymhelliant Recriwtio gwerth £3,300.
Pam ymuno â'r Tîm Asesu ac Ymyrraeth fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae'r Tîm Asesu ac Ymyrraeth yn wasanaeth gwaith cymdeithasol arbenigol sy'n gyfrifol am gynnal asesiadau cymesur a dadansoddol gyda phlant a theuluoedd lle mae pryderon diogelu yn dod i'r amlwg neu wedi'u nodi. Mae'r tîm hefyd yn arwain ar ymholiadau amddiffyn plant cychwynnol, gan sicrhau bod risg yn cael ei hasesu'n drylwyr a bod penderfyniadau amserol, amddiffynadwy yn cael eu gwneud yn unol â'r disgwyliadau statudol.
Mae ein harfer wedi'i ategu gan ymrwymiad clir i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Rydym yn gweithio ar y cyd â theuluoedd, gan adeiladu ar gryfderau a gwytnwch i gefnogi newid cadarnhaol, wrth barhau i fod yn chwilfrydig yn broffesiynol a chynnal ffocws clir ar risg. Lle mae'n ddiogel gwneud hynny, rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o gefnogi plant i aros yn eu rhwydweithiau teuluol; fodd bynnag, rydym yr un mor barod i gymryd camau penderfynol lle y bo angen i sicrhau diogelwch uniongyrchol a hirdymor y plant.
Mae’r Tîm Asesu ac Ymyrraeth yn hyrwyddo diwylliant tîm myfyriol a chefnogol. Rydym yn cydnabod gofynion emosiynol ymarfer gwaith cymdeithasol ac yn blaenoriaethu lles staff. Mae'r tîm yn elwa o oruchwyliaeth reolaidd, trafodaethau myfyriol, a rhwydwaith cymorth cymheiriaid cryf, sy'n galluogi ymarferwyr i archwilio achosion cymhleth yn ddiogel a chynnal penderfyniadau effeithiol. Mae cymorth anffurfiol yr un mor werthfawr, gan alluogi staff i ôl-drafod a chynnal gwydnwch yn eu rolau.
Rydym yn meithrin amgylchedd tîm cadarnhaol a chynhwysol, gan fanteisio ar gyfleoedd i gydnabod a dathlu cerrig milltir proffesiynol a phersonol. Mae'r tîm hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau cymunedol a chodi arian, gan adlewyrchu ein hymrwymiad ehangach i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith lle mae ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u grymuso i ddarparu ymarfer o ansawdd uchel a chyflawni canlyniadau ystyrlon i blant a theuluoedd.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein