Am Y Gwasanaeth
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol integredig yn nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Pentwyn, Pentwyn, Caerdydd. Mae’r tîm wedi'i leoli yng ngogledd-ddwyrain Caerdydd ac mae'n dîm bach a chefnogol sy'n ymdrin ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd.
Am Y Swydd
Bydd angen gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gyfwerth arnoch. Mae dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anawsterau iechyd meddwl. Mae profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad iechyd meddwl yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Yn ddelfrydol byddwch yn Weithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (GPIMC) y mae tâl GPIMC yn daladwy ar ei gyfer, neu’n fodlon dilyn hyfforddiant ar gyfer y rôl GPIMC fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol parhaus.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Byddwch yn gallu asesu anghenion dinasyddion a’u gofalwyr yn hyderus, ac yn gyfarwydd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Byddwch hefyd yn gallu cynnal asesiadau risg a datblygu cynlluniau gofal cysylltiedig a chynlluniau rheoli risg. Byddwch yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol ac yn gallu gweithio dan bwysau.
Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a char i’w ddefnyddio yn ystod oriau gwaith.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol.
Mae angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae hon yn swydd ran-amser am 18.5 awr yr wythnos.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn rhoi gwybod am fformat y cyfweliad fel rhan o’r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch gyda Jade Forbes (Jade.Forbes3@cardiff.gov.uk)
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau