Am Y Gwasanaeth
Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion a'u canlyniadau eu hunain.
Gwasanaethau Oedolion Cymunedol Dyma ein tîm mwyaf yng Nghaerdydd sy'n cefnogi unrhyw un dros 18 oed gydag anableddau corfforol a phobl hŷn. Mae'r timau'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol yn y gymuned ac mewn ysbytai sy'n cynnig gwasanaethau i unigolion a theuluoedd o'r tro cyntaf y bydd angen cymorth arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion drwy gydol eu taith gyda ni. Gan weithio ochr yn ochr gyda thîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gynnwys timau Therapi Galwedigaethol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, timau Canolfan Ddydd a chydweithwyr Iechyd, rydym yn dod o hyd i atebion i gefnogi unigolion orau i gyflawni eu canlyniadau. Mae gennym ni berthnasoedd cytundebol gydag ystod eang o ddarparwyr gofal cartref er mwyn rhoi gofal a chymorth ledled Caerdydd a chartrefi gofal preswyl, gan sicrhau bod pob opsiwn ar gael i ddiwallu orau anghenion unigolion.
O fewn y Gwasanaethau Cymunedol Oedolion, mae nifer o dimau craidd sy'n sicrhau bod unigolion yn cael cymorth yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
- Pwynt Cyswllt Cyntaf - Tîm Gwaith Cymdeithasol / Asesu Oedolion
- Tîm Ysbyty
- Tîm Rheoli Achosion
- Tîm Adolygu
- Tîm Dyletswydd Cymunedol:
Am Y Swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Uwch Weithiwr Cymdeithasol Gradd 8 yn gweithio o fewn ein Tîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty.
Mae'r maes gwasanaeth yn cynnwys amrywiaeth o aelodau tîm, gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso a Gweithwyr Cymdeithasol profiadol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Rheolwyr Tîm a Rheolwr Gwasanaeth. Bydd y rôl benodol hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwaith cymdeithasol ymhellach o fewn tîm proffesiynol, cefnogol, creadigol a gweithgar.
Mae'r tîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty yn rhan o'r Gwasanaeth Rhyddhau Integredig lle rydym yn gweithio ar y cyd â chwaraewyr allweddol eraill fel Nyrsys Cyswllt Rhyddhau, tîm pwynt cyswllt cyntaf, therapyddion galwedigaethol a chydweithwyr Tai.
Mae'r tîm hefyd yn cefnogi'r ymateb Gofal Iechyd Parhaus gwaith cymdeithasol o fewn y Gwasanaethau Oedolion, yn ogystal â rhoi'r cyfle i ymarferwyr brofi gwaith yn y llys sy'n ymwneud â'r Llys Gwarchod ac i gefnogi myfyrwyr.
Byddwch yn cynnal cymorth uniongyrchol i ddinasyddion (asesu a chynllunio gofal) a all weithiau gynnwys delio â sefyllfaoedd cymhleth. Byddwch yn cael y cyfle i gefnogi cydweithwyr eraill o fewn y tîm fel goruchwylio tra'n darparu cefnogaeth barhaus i'r Rheolwr Tîm a Rheolwr Gwasanaeth yn ôl yr angen. Mae disgwyl y byddwch yn ymroddedig i ddatblygu gwasanaeth ac yn ffurfio rhan o grŵp gwneud penderfyniadau ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n edrych ar ddatblygiad strategol y maes hwn.
(I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd, ewch i’n Gwefan Gwaith Cymdeithasol lle gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth weithio i Gaerdydd a mwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig: Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd : Gwaith Cymdeithasol Caerdydd)
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys sydd am gael profiad pellach o fewn Cyngor Caerdydd. Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol a rheoli eich amser. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG.
Rhaid i chi gael gradd mewn Gwaith Cymdeithasol a bod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae angen o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn maes gwasanaeth perthnasol.
Bydd gennych ymrwymiad i gefnogi pobl hŷn a'r rhai ag anableddau corfforol ac i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, ataliol, gan ddarparu'r cymorth sydd ei angen i'w galluogi i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Bydd gennych ymrwymiad cryf ac amlwg i ddulliau sy'n seiliedig ar gryfderau, ymroddiad i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a diddordeb brwd yn eich datblygiad proffesiynol parhaus, gan ymdrechu am ragoriaeth.
Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i'n holl ddinasyddion.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig i ymuno â'n tîm rhyfeddol o Weithwyr Cymdeithasol. Ymunwch â ni i gael eich ysbrydoli gan yr hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig!
Beth y gallwn ei gynnig i chi:
Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig cyfle i chi weithio o fewn y gymuned fwyaf ei phoblogaeth a’i hamrywiaeth yng Nghymru. Mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dros 5000 o unigolion ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd proffesiynol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a phrofiadol.
Byddwch yn ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl hŷn ac unigolion ag anableddau corfforol ac sydd wedi ymrwymo i waith cymdeithasol ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac i aros mor annibynnol â phosibl.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol ac i’ch helpu i fod y gweithiwr cymdeithasol gorau posibl.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, mae'r rôl hon yn cynnig taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi, gan gynnwys mynediad at safleoedd swyddfa ledled y ddinas.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu rhagorol
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.
Sylwch fod ein holl swyddi a hysbysebir yma yn destun gwiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer rhannu swydd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person a dywedwch wrthym sut rydych yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y rhain wrth gwblhau eich cais, a sylwch nad ydym yn derbyn CV fel cais ar gyfer y swydd.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Rebecca Knapp (rebecca.knapp@caerdydd.gov.uk.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau