Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Maethu Caerffili ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £36,648 - £39,186 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â'n Tîm cyfeillgar, sefydledig, prysur a llawn cymhelliant. Mae Maethu Caerffili yn gyfrifol am recriwtio, asesu, cefnogi, goruchwylio ac adolygu Gofalwyr Maeth Cyffredinol, ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig o aelodau o’r teulu neu ffrindiau agos fel gofalwyr (perthynas) sy’n berthnasau ar gyfer plentyn na all, neu sy’ ddim yn gallu, aros gyda’u teulu geni.
Dros y 12 mis diwethaf mae Maethu Caerffili wedi ail-lansio'r wefan Maethu ac wedi cychwyn ar ymgyrch recriwtio Gofalwyr Maeth Cyffredinol a gefnogir gan ein Tîm cyfathrebu. Mae'r llwyddiant yn amlwg; mae nifer o ein Gofalwyr Maeth Cyffredinol wedi cynyddu.
Mae pob aelod newydd o staff yn cael y cyfle i ymdrin â phob agwedd o’r gwaith er mwyn datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Maethu a’r Rheoliadau Maethu a’r safonau sy’n ein harwain. Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y Gwasanaeth Maethu trwy gymryd rhan yn arolygiad blynyddol AGC a datblygu/ gweithredu mentrau arfer da.
Bydd angen sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol arnoch a'r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â Gofalwyr Maeth, eu teuluoedd a phlant sy'n derbyn gofal, gan ganolbwyntio ar les a diogelwch plant. Byddwch yn gallu cefnogi ac arwain Gofalwyr Maeth i adeiladu ar eu sgiliau cyfannol.
Byddwch yn fedrus wrth ddatblygu a chynnal gwaith aml-asiantaeth effeithiol a byddwch yn cydweithio'n agos â gweithwyr proffesiynol o bob disgyblaeth. Gyda chylch gwaith sy'n rhychwantu asesu a chefnogi pobl gysylltiedig, rydych chi'n sicr o heriau gwahanol bob dydd.
Mae gan Wasanaethau Plant Caerffili gysylltiadau cryf â Gwasanaeth Ymlyniad Gwent ac mae Caerffili wedi croesawu gwasanaeth therapiwtig MYST, sy'n darparu cymorth dwys i'n Plant sy'n Derbyn Gofal.
Mae gan Faethu Caerffili hefyd fynediad at Seicolegydd Clinigol. Datblygwyd y swydd hon i gefnogi gwaith y Tîm Maethu ac mae'n darparu lefel uchel o gefnogaeth i staff sydd â mynediad i sesiynau myfyrio rheolaidd a sesiynau ymgynghori ar gyfer Gofalwyr Maeth.
Bydd angen i chi feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc a sgiliau cyfathrebu a TG da.
Byddwch yn rhan o amgylchedd hynod gefnogol a bydd gennych fynediad da at hyfforddiant a datblygiad.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
- Diploma / Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd
- Gwybodaeth gyfredol am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r rheoleiddwyr cfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
- Trwydded yrru llawn DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibnion busnes i deithio ldled y fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry ar 07789371781 neu ebost:
perrycl@caerphilly.gov.ukBydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 26 ain Ebrill 2024Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.