Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Ty Tredomen, Ty Penallta
Tîm: Tîm Maethu
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol angerddol ac ymroddedig sydd am wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau plant a phobl ifanc?
Ymunwch â'n Tîm Maethu a chwarae rhan hanfodol yn recriwtio, asesu, hyfforddi a chynorthwyo gofalwyr maeth sy'n darparu cartrefi diogel, sefydlog a meithringar i blant sy'n byw oddi cartref. Byddwch chi’n gweithio'n agos gyda gofalwyr, plant, teuluoedd ac asiantaethau partner i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, wrth gyfrannu at ddatblygiad parhaus ein gwasanaeth maethu a mentrau recriwtio. Mae'r rôl yn cynnwys cwblhau asesiadau maethu, cynorthwyo gofalwyr drwy oruchwyliaeth ac adolygiadau, a helpu gwella cyfraddau cadw gofalwyr maeth ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion deddfwriaeth, ymchwil ac ymarfer cyfredol ym maes gofal plant?
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry ar 07789371781 neu ebost: PERRYCL@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.