Rydyn ni'n recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Parc Busnes Woodfieldside
Tîm: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd barhaol hon, er mwyn cynorthwyo nod cyffredinol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o ran lleihau troseddu gan blant. Felly, bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol o ran ennyn diddordeb plant a chael effaith gadarnhaol drwy'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud fel rhan o'n Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid amlasiantaethol. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n arwain at droseddu.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol neu fod i gymhwyso yn 2026. Bydd wedi'i leoli o fewn un o'r Timau Llys a'r Gymuned, yn gweithio ar Orchmynion Llys Statudol ac achosion Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys.
Prif ffocws y gwaith fydd rheoli plant rhwng 10–17 oed sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol a/neu wrthgymdeithasol, a darparu gwasanaethau iddyn nhw. Bydd yr unigolyn llwyddiannus hefyd yn gweithio i atal digwyddiadau troseddu a/neu ymddygiad gwrthgymdeithasol pellach. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau'r sectorau statudol a gwirfoddol lleol.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Felly, mae sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar. A yw'r swydd hon yn swnio'n addas i chi? Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:
- Cyfnod ymsefydlu cynhwysfawr
- Cymorth i gwblhau addysg a dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff newydd ei gymhwyso
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus
- Model asesu risg wedi'i sefydlu
- Gwneud penderfyniadau amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol
- Arweinyddiaeth weladwy a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg ac arloesol gyda'r gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion ymchwil ac ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Vicki Woodward ar 01495 235623 neu ebost WOODW@CAERPHILLY.GOV.UK / Kate MacGregor ar 01495 235623 neu ebost MACGRK@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.