Am Y Gwasanaeth
Mae ein gwasanaeth yn cynnig gofal iechyd meddwl eilaidd i oedolion sy'n byw gyda dementia a phobl dros 65 oed sydd wedi cael diagnosis o salwch meddwl. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Dementia Cynnar a thimau cymunedol Awdurdodau Lleol.
Am Y Swydd
Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.
Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch meddwl wrth gydweithio â gweithwyr iechyd, dyma’r cyfle i chi. Rydym am recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 7 i ymuno â ni yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn.
Ein hathroniaeth yw meithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial. Rydym yn dîm integredig, sydd wedi'i leoli yn uned Llanfair, Ysbyty Llandochau. Rydym yn cydweithio â nifer o weithwyr proffesiynol o awdurdodau lleol ac iechyd. Rydym yn goruchwylio staff yn rheolaidd ac yn cynnal cyfarfod wythnosol i drafod achosion cymhleth mewn maes amlddisgyblaethol.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
- Drwy ddarparu gofal a thriniaeth sy'n canolbwyntio ar adferiad, rydym yn annog cyflogeion i fabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar gryfderau tra'n ymdrechu i gyflawni canlyniadau personol i unigolion. Mae ein tîm yn gweithio'n agos gyda dinasyddion, teuluoedd a gofalwyr i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau.
- Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau.
- Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Hyder a gwybodaeth dda am fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
- Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion.
- Ymrwymiad i weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith cymdeithasol arbenigol ac i weithio'n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau'r trydydd sector.
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg ac Ieithoedd Cymunedol, o fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, mae’r swydd hon yn denu atodiad marchnad o £3000 y flwyddyn cyfwerth ag amser llawn. Caiff y taliad hwn ei adolygu bob 12 mis.
Swydd barhaol yw hon am 37 awr yr wythnos.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr recriwtio yn rhoi gwybod am fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Martin Bickel (Martin.Bickel@caerdydd.gov.uk)
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau