Mae’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol llawn cymhelliant a deinamig i ymuno â ni yn ein hisadran Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Rydym yn dîm amlddisgyblaeth sy’n gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill i fodloni anghenion gofal cymdeithasol oedolion 18 oed a hŷn. Ein nod yw gweithio'n rhagweithiol gydag unigolion i hyrwyddo dewis, rheolaeth, annibyniaeth a chymryd risg cadarnhaol, gan alluogi pobl i gyflawni canlyniadau yn y meysydd hynny sydd yn bwysicaf iddynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, a’ch lleoliad gwaith fydd Tŷ Glas y Dorlan, Bryn Eithin, Cwmbrân. Byddwch yn ymroddgar i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, gan ganolbwyntio ar &slshquot;yr hyn sy'n bwysig&slshquot; i unigolion a’u cefnogi i fod mod annibynnol â phosibl.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n hyblyg, yn frwdfrydig ac yn ymroddgar, ac sy'n gallu gweithio'n hyderus ar draws lleoliadau cymunedol ac mewn ysbytai.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Ailalluogi Integredig, gan fonitro cynnydd unigolion ac ymateb yn hyblyg wrth i anghenion newid. Ar ddiwedd y cyfnod ailalluogi, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag unigolion, eu teuluoedd, ac asiantaethau sy’n bartneriaid, i adolygu'r cynnydd yn erbyn canlyniadau y cytunwyd arnynt. Yna byddwch yn cymryd camau priodol a chymesur boed hynny i dynnu cefnogaeth yn ôl, trefnu gofal parhaus, neu archwilio opsiynau eraill, gan sicrhau bod pob penderfyniad yn parhau i fod yn seiliedig ar gryfderau ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn.
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cymhwyso ac sy'n gallu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm amlddisgyblaeth sy’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, arweinwyr galluogi, gweithwyr cymorth galluogi, ymarferydd Ailalluogi ac ymarferydd gofal cymdeithasol.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Melanie Baker melanie.baker@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 761662.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.