Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Cymdeithasol (Asesiad) Swydd-ddisgrifiad Am y rôl:
Prif rôl y Gweithiwr Cymdeithasol - Dyletswydd ac Asesu yw cynnal asesiadau Gofal a Lles ac ymchwiliadau Amddiffyn Plant Adran 47. Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn rhan o rota dyletswydd. Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac yn gweithio'n fyfyriol iawn ac yn agored gyda'i gilydd. Mae pawb yn gwerthfawrogi goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol ar achosion lle gellir rhannu syniadau a gwybodaeth.
Amdanoch chi:
Bydd angen y sgil ar unrhyw Weithiwr Cymdeithasol sy'n gwneud cais am swydd yn y tîm asesu i gefnogi teuluoedd i ddod o hyd i atebion i unrhyw angen sy'n dod Ii'r amlwg neu risg tuag at blentyn. Gallu hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith teuluol a defnyddio cwestiynau sy'n seiliedig ar gryfder i geisio ffyrdd o reoli neu leihau risgiau. Bod yn chwaraewr tîm gyda'r gallu i weithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau ond hefyd y gallu i weithio'n annibynnol yn ôl y gofyn. Dull hyblyg o weithio ac agwedd bositif.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud:
Prif rô Byddwch yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner lle mae perthnasoedd da eisoes wedi'u datblygu ac mae'r timau'n gweithio'n dda iawn gyda chydweithwyr yn yr Heddlu, iechyd ac addysg. m yn defnyddio Cynllunio Diogelwch gyda theuluoedd sydd wedi'u grymuso i chwilio am atebion i sefyllfaoedd lle gallai plentyn gael ei ystyried i fod mewn angen neu mewn perygl. Ein hethos yw grymuso teuluoedd a, lle bo angen, chwilio am yr adnoddau a'r gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu plentyn. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm misol ond hefyd sesiynau dal i fyny rheolaidd fel tîm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
Samantha Palmer
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr