Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r porthol swyddi ar hyn o bryd, felly efallai y byddwch yn sylwi ar ychydig o darfu dros dro. Nid yw hyn yn effeithio ar gyhoeddi swyddi gwag â llaw, felly parhewch i rannu eich rolau gyda ni.

Gweithiwr Cymdeithasol (Caernarfon)

Dyddiad cau 09/06/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£37,280 - £39,152 a year (S4) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol

Gwasanaeth: Plant

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.


                

Nodweddion personol

Hanfodol

Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dim.

Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.

Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.

Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol

Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr

Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.

Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu

Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau plant a theuluoedd.

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru 

Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol  

Dymunol

-

Profiad perthnasol

Hanfodol

Profiad o weithio mewn tîm 

Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd  

Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal  

Profiad o weithio efo asiantaethau eraill  

Dymunol

Profiad o ddelio efo achosion diogelu  

Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr. 

Profiad o ddelio efo achosion cymhleth  

Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol 

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas. 

Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal. 

Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da. 

Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth 

Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol  

Dymunol

Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau plant a theuluoedd.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

                

Pwrpas y swydd

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Gweithredu o fewn Rheoliadau Maethu (2020)

Gweithredu yn unol ag ethos ‘Maethu Cymru’

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.

Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd

Prif ddyletswyddau

Dyletswyddau Cyffredinol

Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig

Atgyfnerthu a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a enillwyd trwy gymwysterau ffurfiol trwy fentora ac arweiniad ymarferwyr profiadol. Mynychu gweithdai 3 blynedd gyntaf perthnasol o ymarfer a chwblhau'r Rhaglen Gadarnhau. Gweithio gyda'r mentor i ddatblygu ymarfer.

Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd ac ymgynghori â'ch rheolwr llinell a chydweithwyr profiadol eraill. Parhau i ddatblygu eich ymarfer gwaith cymdeithasol trwy fyfyrio parhaus.

Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.

Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.

Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau yn gynyddol gymhleth o fewn y 3 blynedd gyntaf o ymarfer trwy fentora a goruchwyliaeth gan eich rheolwr llinell neu arweiniad gan gydweithwyr mwy profiadol.

Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor, a gwrthdaro, gydag arweiniad a chymorth yn cynyddu mewn cymhlethdod yn ystod y 3 blynedd.

Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol trwy arweiniad gan eich rheolwr llinell a gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol.

Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.

Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill gan gynyddu mewn cymhlethdod drwy gydol y 3 blynedd.

Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan arweiniad eich rheolwr llinell neu gydweithwyr profiadol eraill a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n

bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol dan arweiniad eich rheolwr llinell neu weithwyr cymdeithasol mwy profiadol.

Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru dan arweiniad rheolwr llinell neu gydweithwyr mwy profiadol a chydweithio ar achosion mwy cymhleth.

Dyletswyddau Lleol

Helpu i recriwtio gofalwyr maeth;

Gweithredu o fewn Rheoliadau Maethu (2020)

Asesu gofalwyr maeth ar gyfer gofalu am blant a phobl ifanc mewn gofal a chyflwyno’r asesiadau i Banel Maethu Gwynedd;

Helpu darganfod lleoliadau i blant a phobl ifanc sydd angen dod i fewn i ofal yr Awdurdod Lleol, unai o fewn adnoddau'r tîm neu adnoddau a ddarperir gan asiantaethau annibynnol;

Adolygu’r gofalwyr maeth yn flynyddol er mwyn canfod os ydynt yn parhau i gyrraedd lefel disgwyliedig o fewn y cymhwyseddau maethu;

Cyfrannu at hyfforddiant o safon uchel i ofalwyr maeth.

Bod yn rhan o rota dyletswydd y tîm a cynghor a chefnogi gofalwyr maeth ar sail bod yn weithiwr dyletswydd.

Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y Cyhoedd, asiantaethau eraill, y wasg ayyb ynglŷn á maethu.

Gweithredu yn unol ag ethos ‘Maethu Cymru’

Hyrwyddo dull therapiwtig o faethu.

Dyletswyddau Eraill

Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Amgylchiadau arbennig

Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.

Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.