37 awr yr wythnos
Mae swydd wag wedi dod ar gael ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol yn y tîm Diogelu Canolog sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae strwythur y tîm yn cynnwys Rheolwr Tîm, Dirprwy Reolwr Tîm, dau Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol, 6 Gweithiwr Cymdeithasol a 3 Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol.
Mae'r adran wedi gweithio'n galed i sicrhau bod llwythi gwaith yn hylaw gyda dosbarthiad teg o achosion a bod lefel gref o gefnogaeth reolaethol ar gael bob amser hefyd, gan gefnogi staff i dyfu a datblygu yn eu hymarfer.
Mae dull sy'n seiliedig ar gryfderau yn sail i ymyriadau Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr mewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol. Yn 2023 lansiodd Gofal Cymdeithasol Plant y model gwaith cymdeithasol ‘Arwyddion Diogelwch’ sy'n sail i'n holl ymarfer yng Ngwasanaethau Plant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl blant, pobl ifanc a theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Mae amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion yr ystyrir eu bod mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae ein Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd wedi'u targedu yn darparu continwwm o wasanaethau sy'n amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth gan gynnwys datblygu dau wasanaeth newydd sy'n cynnig cymorth i blant a theuluoedd lle mae pryderon ynghylch camfanteisio a chymorth i reoli ymddygiad ac argyfwng ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â phlant ag anableddau, plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a phobl ifanc 15 oed a throsodd y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cymwysedig sydd naill ai newydd gymhwyso ac yn awyddus i dyfu, datblygu a symud ymlaen fel ymarferwyr yn y maes, neu weithwyr cymdeithasol profiadol sy'n chwilio am her newydd a chyfleoedd dilyniant gyrfa. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a dysgu a mentora gan gymheiriaid.
Os ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc ac eisiau gweithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwyliaeth o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn lle croesawgar i fyw a gweithio, rydym yn awdurdod lleol cynhwysol sy'n croesawu gwahaniaethau diwylliannol ac amrywiaeth. Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Fel cyflogwr rydym yn cydnabod bod gweithio ym maes Diogelu yn cynnwys heriau ac felly mae cefnogi llesiant staff yn bwysig iawn i ni. Felly, os byddwch yn dewis gweithio i Ben-y-bont ar Ogwr byddwch yn cael budd o drefniadau gweithio hyblyg gan gynnwys gweithio hybrid a lefel o hyblygrwydd a fyddai'n gweddu i'ch amgylchiadau personol.
I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r rheolwr tîm Davina Howley
davina.howley@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 642080.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 29 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 31 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 07 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person