Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant, penderfynol a chadarn i ymuno â’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (MASH).
Y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yw ein drws ffrynt yng Nghonwy, a bydd y swydd hon yn chwarae rôl bwysig yn diogelu plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod atgyfeiriadau’n cael eu sgrinio, eu hasesu, a’u bod yn derbyn ymateb priodol. Trwy weithio mewn amgylchedd amlasiantaeth prysur, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth, yn asesu risg, yn gwneud penderfyniadau ac argymhellion clir, ac yn cydweithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau bod plant a theuluoedd yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad sylweddol ar ôl cymhwyso mewn diogelu ac amddiffyn plant. Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus wybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau diogelu, profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd lle mae pryderon am esgeulustod, cam-drin domestig, cam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio a risgiau diogelu eraill, a gallu cryf i ddadansoddi gwybodaeth a gwneud penderfyniadau prydlon y gellir eu hamddiffyn.
Mae’r rolau hyn yn ymofyn sgiliau cyfathrebu, asesu a threfnu rhagorol, ynghyd ag ymrwymiad i gydweithio ag amlasiantaethau. Dylai ymgeiswyr allu rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro, cadw cofnodion ac adroddiadau o ansawdd uchel, a defnyddio dull ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn seiliedig ar gryfderau ac yn ystyriol o drawma.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferwyr sy’n awyddus i ddatblygu eu gwybodaeth a phrofiad ym maes diogelu ymhellach o fewn tîm dynamig a chefnogol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Ciaran Chaney, Rheolwr Tîm - MASH
( 01492575135 / ciaran.chaney@conwy.gov.uk )
Kyle Dovey, Rheolwr Tîm - MASH
( 01492577225 / kyle.dovey4@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais?
Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.