Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.
Gweithiwr Cymdeithasol - Cydlynydd Ardal Tîm o Amgylch Y Teulu - Dwyfor
Dyddiad cau 16/01/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
Sir Ddinbych
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â teuluoeddyngyntaf@gwynedd.llyw.cymru neu 07717303121
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang Person sydd a sgiliau cyfathrebu da wrth weithio gyda theuluoedd ac amrediad o asiantaethau proffesiynol.
Y gallu i flaenoriaethu gwaith i gwrdd â therfynau amser penodol.
Person trefnus a chydwybodol.Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm a sy'n parchu rolau eraill.
Ymroddiad i ddatblygu yn broffesiynol yn barhaus
Meddu ar drwydded yrru ddilys
Dymunol Person â'r gallu i annog eraill i gydweithio.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster perthnasol mewn gwaith cymdeithasol (DipSW,CQSW,CSS)
Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
"Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhywun sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr."
Dymunol Hyfforddiant mewn rhaglen riantu cydnabyddedig e.e. y Blynyddoedd Rhyfeddol, neu gymhwyster arall perthnasol yn y maes cefnogi teulu
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad helaeth o weithio gyda plant, pobl ifanc a'u teuluoedd
Profiad o weithio gyda amrediad eang o asianataethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol yn y maes hwn
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth proffesiynol i eraill.
Profiad o asesu / ymateb i anghenion amrywiol a chymhleth teuluoedd sydd a phlant/pobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Profiad o weithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau proffesiynol.
Profiad o gyflwyno gwybodaeth i asiantaethau eraill mewn cyfarfodydd.
Dymunol Profiad o weithio mewn tîm plant neu leoliad gwaith efo plant.
Profiad o gadeirio cyfarfodydd.
Profiad o hyfforddi a / neu fentora.
Profiad o farchnata gwasanaeth
Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau.
Profiad o ddefnyddio teclynau mesur ansawdd gwasanaethau gyda teuluoedd
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Meddu ar drwydded yrru gyfredol llawn.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda amrediad eang o weithwyr proffesiynol, boed yn weithwyr rheng flaen neu yn reolwyr.
Y gallu i weithio'n effeithiol a chreadigol, mewn cyd-destun aml-asiantaethol ac aml-ddisgybledig.Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r maes plant, pobl ifanc a theuluoedd .
Gwybodaeth am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a'r meddylfryd tu ôl i'r Tîm O Amgylch y Teulu gan gynnwys dogfen ganllaw Gyda'n Gilydd v 3 Mehefin 2015.
Dealltwriaeth o Ganllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Y gallu i ymateb yn sensitif i anghenion iaith teuluoedd ag i lynu wrth ymarfer gwrth othrymol.Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint).
Sgiliau rhwydweithio da.Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau arwain a chydlynnu.
Dymunol Sgiliau negodi da.
Sgiliau datblygu prosesau a systemau newydd.
Tystiolaeth o fod wedi mynychu cyrsiau hyfforddi penodol ar wahanol agweddau o waith gyda teuluoedd bregus.
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau bod teuluoedd Gwynedd yn cael llais, dewis a rheolaeth yn y modd y maent yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i gyrraedd eu potensial yn unol â nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
• I sicrhau bod teuluoedd yn ardal Arfon, sydd angen cefnogaeth ychwanegol, yn derbyn gwasanaeth ataliol sydd yn integredig, yn gydlynnus, ac sydd wedi ei gynllunio'n effeithiol ar sail partneriaeth rhwng y teuluoedd a'r asiantaethau sy'n gweithio gyda hwy.
• Gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd wedi, neu mewn peryg o gael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol Mewn Plentynod (ACEs), er mwyn ceisio atal y rhain neu liniaru'r effaith o brofiad ohonynt er mwyn torri'r cylch o fewn cenedlaethau teuluol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Rheolaeth dros adnoddau a ddyrennir i gefnogi'r gwaith e.e. gliniadur, ffôn symudol, taflunydd, pecynnau gwaith.
Prif ddyletswyddau Rôl Cydlynydd Tîm o Amgylch y Teulu
• Gwneud cyswllt ac adeiladu perthynas waith effeithiol gyda theuluoedd sy'n cael eu cyfeirio at y Tîm o Amgylch y Teulu. Cydweithio gyda hwy ac asiantaethau eraill sy'n eu cefnogi i lunio ymyrraeth sydd wedi cael ei deilwra a'i dargedu at eu hanghenion arbennig nhw.
• Sefydlu, meithrin a chynnal perthynas waith effeithiol gydag ystod o wasanaethau (statudol, anstatudol, 3ydd sector a gwasanaethau a gomisiynir gan Teuluoedd yn Gyntaf) er mwyn cyd weithio yn effeithiol gyda hwy a chynnig gwasanaeth di-dor i deuluoedd a'u helpu i gyrraedd eu hanghenion a deilliannau llesiant.
• Darparu arweiniad, cyngor a gwybodaeth ar ganllawiau gweithredol y Tîm o Amgylch y Teulu er mwyn sicrhau dealltwriaeth eang ynglŷn â'r canllawiau cyfeirio i'm Derbyn cyfeiriadau (IAA) a llunio asesiadau teulu.
• Cwblhau Asesiadau Gofal a Chymorth a Chynlluniau Teulu a chydymffurfio a threfn "mesur effaith" y Gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu.
• Cadw gwybodaeth gywir a chyfredol am deuluoedd ar fas data WCCIS.
• Cadeirio cyfarfodydd ar y cyd rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i greu cynlluniau teulu ac yna i fonitro'r cynlluniau teulu. Cynllunio ar gyfer dod ag ymyrraeth y Tim o Amgylch y Teulu i ben pan mae achos teulu yn cau.
• Ymateb i ymholiadau gan weithwyr proffesiynol pan mae pryder am ddiogelwch plentyn neu deulu sydd yn agored i wasanaeth TAT. Trafod pryderon ymhellach gyda Rheolydd Y Tîm o Amgylch y Teulu a Rheolydd y Tîm Derbyn Cyfeiriadau Plant pan mae amheuaeth os oes angen uwchafu'r achos yn ôl i'm Derbyn a'i peidio.
• Cydweithio ochr yn ochr am gyfnod efo gwasanaethau statudol plant pan mae achosion yn y broses o gael ei uwchafu neu yn camu lawr i wasanaeth ataliol Tî Cyfeirio teuluoedd ymlaen at wasanaethau sydd yn cael eu harianu gan grant Teuluoedd yn Gyntaf a gwasanaethau eraill ar gael yn y gymuned yn unol â dymuniad y teulu.
• Ymateb yn sensitif i anghenion iaith y teulu ac ymrwymo i ymarfer yn wrth wahaniaethol.
• Bod yn rhan o weithdai hyfforddi ar gyfer staff, yn cynnwys darparwyr gwasanaethau "Teuluoedd yn Gyntaf", i gynnwys elfennau pwysig y dull gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu .
• Rhannu gwybodaeth gyda Rheolydd y Tîm o Amgylch y Teulu am unrhyw elfennau datblygiadol sy'n codi. Bod yn fodlon trafod a datrys unrhyw rwystrau i gyd weithio.
Rôl Strategol
• Sicrhau bod rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Gwynedd yn cyfrannu at wireddu amcan strategol yr Adran Plant a Theuluoedd o wella ymochredd (alignment) rhwng gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf a gwasanaethau statudol yng Ngwynedd.
• Sicrhau bod teuluoedd Gwynedd yn cael yr ymyrraeth cywir ar yr amser cywir er mwyn ceisio atal achosion rhag agor i wasanaethau statudol a mwy ymledol.
• Cymryd rhan yn y broses o ddatblygu Tîm o Amgylch y Teulu mewn cyfnodau o newid.
• Mynychu Cyfarfodydd staff a chyfarfodydd eraill ar gais y rheolydd
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Angen i weithio oriau anghymdeithasol weithiau
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr