37 awr yr wythnos
Dros dro - 12 mis o fis Medi 2026
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (OPMHT) sydd wedi'i leoli ar Heol Quarella ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn dîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gwasanaethau i unigolion sy'n derbyn Gofal Eilaidd fel y'i diffinnir ym Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. A chithau'n weithiwr cymdeithasol yn y tîm, bydd disgwyl i chi weithio ar y cyd â chydweithwyr iechyd. Rydym wedi'n cyd-leoli ac yn gweithio'n agos gyda thîm o Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Therapyddion Galwedigaethol Iechyd Meddwl a Ffisiotherapyddion.
Fel tîm, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Chlinig Angelton. Mae Clinig Angelton wedi'i leoli ar safle Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu gwasanaeth cleifion mewnol i bobl hŷn sydd â salwch iechyd meddwl difrifol a pharhaus a dementia. Rydym yn gweithio'n agos gyda Seiciatryddion Ymgynghorol a'u tîm i gefnogi unigolion yn y gymuned ac mewn lleoliad ysbyty.
A chithau'n weithiwr cymdeithasol yn y tîm OPMH, byddwch yn darparu ymateb sy'n seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a galluogol i oedolion dros 65 oed y mae cyflyrau iechyd meddwl yn effeithio arnynt. Gall y bobl rydym yn eu cynorthwyo wynebu heriau cymhleth hirdymor o ran eu hiechyd meddwl, iechyd corfforol a llesiant emosiynol. Bydd disgwyl i chi ymgymryd â gwaith achos cymhleth gydag unigolion a'u gofalwyr.
Fel tîm, rydym yn cynnal asesiadau cyfannol ac yn cydweithio â'r unigolion a'r rhai sy'n bwysig iddynt er mwyn gwella eu hansawdd bywyd. Rydym yn cynorthwyo unigolion i gyflawni eu canlyniadau a datblygu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth sy'n canolbwyntio ar y person. Rydym yn ymdrechu i greu tîm effeithiol o amgylch y person gyda dull amlddisgyblaethol i sicrhau bod eu hanghenion a'u canlyniadau a nodwyd yn cael eu diwallu a'u bodloni. Bydd eich rôl yn cynnwys bod yn Gydlynydd Gofal dynodedig i unigolion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o fewn Rhan 2 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Fel Cydlynydd Gofal, byddwch yn cael eich penodi i weithio gydag unigolion i gydlynu eu gofal a'u triniaeth a chydgynhyrchu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Bydd eich rôl yn cynnwys cynnal asesiadau risg a hyrwyddo hawliau unigolion drwy sicrhau bod eu dymuniadau'n cael eu ystyried. Bydd eich rôl yn cynnwys hyrwyddo annibyniaeth a llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ganolbwyntio ar ‘yr hyn sy'n bwysig’ i bobl. Lle y bo'n ymarferol, byddwch yn canolbwyntio ar atal a hunanreoli, gan alluogi unigolion i gynnal annibyniaeth drwy gyfuniad o asesu, gofal a chymorth ac ymyriadau ymarferol eraill.
Byddwch yn sicrhau dewis a rheolaeth i unigolion ac yn rhoi'r person wrth wraidd ei ofal. Byddwch yn sicrhau bod llais a dewis y person yn cael eu clywed.
Rydym yn dîm cefnogol a chroesawgar. Fel tîm, rydym yn uchelgeisiol wrth geisio datblygu ffyrdd arloesol a chreadigol o gefnogi'r unigolion a'r rhai sy'n bwysig iddynt.
Rydym yn annog sgwrs anffurfiol neu ymweliad cyn y cyfweliad.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch:
Laura Griffiths (Rheolwr Tîm) – Laura.Griffiths2@bridgend.gov.uk.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 22 Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 27 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 11 Awst 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person