37 awr yr wythnos
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Gwaith Cymdeithasol sefydledig sy'n darparu safonau uchel o ymarfer proffesiynol mewn lleoliad amlddisgyblaethol. Mae Clinig Caswell yn ysbyty diogelwch canolig sy'n darparu asesu, triniaeth, adsefydlu, ac ôl-ofal i unigolion â salwch meddwl difrifol sydd wedi cyflawni troseddau difrifol. A chithau'n rhan o dîm a gefnogir yn dda, byddwch yn cario llwyth achosion cymhleth ac yn gweithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol.
Byddwch yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig brwdfrydig ac ymroddedig, ac yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau, yn ymrwymedig i ofal sy'n ystyriol o drawma a bydd gennych sgiliau trefnu rhagorol. Byddwch yn meddu ar lefel uchel o sgiliau ysgrifennu adroddiadau ac yn dangos dull sy'n seiliedig ar werthoedd, gan eirioli dros ein grŵp cleifion difreintiedig sydd wedi'u stigmateiddio. Mae'r rôl hon wedi'i lleoli o fewn ein Gwasanaeth Menywod.
Mae Gwaith Cymdeithasol Fforensig yn arbenigedd lle mae gwybodaeth a phrofiad o faterion iechyd meddwl yn fantais. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymgeiswyr ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â ni am drafodaeth ac i ddysgu rhagor am y Gwasanaeth. Cysylltwch â:
Susan Brown – Rheolwr Gwaith Cymdeithasol 01656 753059 / Susan.brown@wales.nhs.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 9 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 11 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 24 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person