Rhif swydd SSAC0111.6 - Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaethau Oedolion
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol brwdfrydig a llawn cymhelliant ymuno â thîm Gwasanaethau Oedolion Casnewydd. Dyma gyfle prin i ddod yn rhan o wasanaeth blaengar a chefnogol sy'n gweithio gydag oedolion 18 oed a hŷn, gan eu helpu i gyflawni'r canlyniadau sydd bwysicaf iddyn nhw.
Wrth wraidd ein hymarfer mae ymrwymiad i egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym yn angerddol am roi dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn, grymuso pobl i gynnal eu hannibyniaeth, adeiladu ar eu cryfderau, a chadw mewn cysylltiad â'u cymunedau.
Fel rhan o'n tîm, byddwch yn gweithio ar y cyd ag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, cydweithwyr iechyd, ac ystod eang o bartneriaid cymunedol i ddarparu cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy'n seiliedig ar gryfderau. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo lles drwy ymyrraeth gynnar, atal, a darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, gan helpu pobl i ddod o hyd i'r atebion cywir ar yr adeg gywir.
Rydym yn falch o'n partneriaethau cryf ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a'n hymrwymiad i ddatblygu dulliau arloesol sy'n gwella canlyniadau i bobl Casnewydd. Mae ein harfer yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gan alluogi unigolion i adnabod a chyflawni eu nodau personol, gyda phwyslais clir ar ddeall a nodi’r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio'n hyderus mewn amgylchedd prysur a phwysau uchel, creu cysylltiadau gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol, a hyrwyddo diwylliant o gydweithio, atebolrwydd ac arfer o ansawdd uchel. Os ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol a sicrhau canlyniadau rhagorol i oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr, byddem yn croesawu eich cais.
Yng Nghyngor Dinas Casnewydd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithio’n hyblyg lle bo hynny'n bosibl. Er bod y swydd hon yn un amser llawn, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ystyried rhan amser fel rhan o drefniant rhannu swydd ac fe gânt eu hystyried.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein Gwerthoedd - Tegwch i Bawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn Gyfrifol, Gweithio gyda'n gilydd